Mae’r Cyfryngau Creadigol yn bwnc eang a helaeth, sy’n agor y byd cynhyrchu digidol i’ch doniau creadigol chi.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych eisiau mynd â’ch profiad o gynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol ymhellach ac adeiladu portffolio sy'n adlewyrchu eich cyflawniadau, sgiliau, profiadau a'ch priodoleddau er mwyn arddangos eich gwaith ymarferol gorau.
Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol mewn cynhyrchu a thechnoleg yn y cyfryngau digidol yn ogystal â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i symud ymlaen i astudiaeth bellach ar gynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol L3 a hyfforddiant mewn ystod o bynciau sy’n ymwneud â’r cyfryngau, gan gynnwys dylunio gemau, ffilm, y teledu, radio, peirianneg sain ac eraill. Mae'r cwrs hwn yn caniatáu i'ch brwdfrydedd a'ch chwilfrydedd yn y cyfryngau, yn aml mewn disgyblaeth benodol, i archwilio ac ymestyn eich diddordeb o fewn profiad dysgu ymdrwythol, llawn amser gan ddefnyddio’r technegau digidol diweddaraf.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i’r cwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol L3 ac yn y pen draw i fyd gwaith. Fe gewch y cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy gyfrannu i syniadau newydd ac arbrofi yn ogystal â chael eich cyflwyno i ystod o weithgareddau a fydd yn eich ysbrydoli ac yn arloesol wrth i chi ddatblygu a chreu prosiect terfynol cyfryngau digidol.
Mae gennym switiau cyfrifiadurol â’r holl gyfarpar angenrheidiol, lle byddwch yn dod o hyd i’r meddalwedd diweddaraf a thechnoleg fodern, tra bod ein hystafelloedd recordio a’n stiwio ffilm ar y safle yn cynnwys camerâu DSLR proffesiynol o safon y diwydiant.
Mae gan ein hadran cyfryngau creadigol a digidol gysylltiadau cryf ar draws y diwydiant, felly byddwch chi’n elwa o arbenigwyr yn y diwydiant a chyfleoedd rhwydweithio a gallech gael y cyfle i gofrestru ac ennill gwobrau ffilm a theledu cenedlaethol yn ogystal â bod yn rhan o’n ‘Clwb Ffilm’ gwobrwyog.
Nodweddion y Diwydiant:
Mewn maes pwnc sy'n cwmpasu ystod anhygoel o bynciau a disgyblaethau, o animeiddio i ffotograffiaeth i gyfarwyddo fideos a chynllunio gemau fideo, bydd wastad dewis gennych o ran gyrfa yn y dyfodol.
Mae hwn yn amser hynod gyffrous i'r diwydiant Cyfryngau Creadigol yng Nghymru sy'n arwain at gyfleoedd gwaith ar garreg ein drws gydag Yr Egin yng Nghaerfyrddin a stiwdios y BBC yng Nghaerdydd. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol Lefel 2, ac mae’n darparu sgiliau trosglwyddadwy, a all arwain at hyfforddiant mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau.
Mae’r cwrs Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol Lefel 2 yn cynnwys naw uned, sy’n cwmpasu er enghraifft:
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys naill ai Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol (Ôl-16) neu Sgiliau Hanfodol ynghyd ag uned iaith Gymraeg a Sgiliau Cyflogadwyedd.
Asesir unedau yn fewnol. Hefyd byddwch yn creu prosiect mawr terfynol.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith cyfryngau neu gelf a dylunio i’w cyfweliad.
Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y Lefel 2 gael o leiaf 4 TGAU gradd A* - C a rhaid i un ohonynt fod naill ai’n Fathemateg neu Saesneg. Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.