Celfyddydau Perfformio a Chelfyddydau Cynhyrchu L3
(Llwybrau Actio / Dawns / Celfyddydau Cynhyrchu)
Ydych chi’n frwdfrydig naill ai am Actio, Canu, Dawnsio neu’r Celfyddydau Cynhyrchu, yna dyma’r cwrs ar eich cyfer chi! Bydd y cwrs hwn yn darparu ac yn caniatáu i chi ddatblygu eich gwybodaeth greiddiol o fewn perfformiad neu theatr dechnegol a fydd yn hyrwyddo eich sgiliau ar gyfer clyweliadau a chyfweliadau mewn ysgolion galwedigaethol neu brifysgolion.
Rhoddir cyfleoedd i chi archwilio ac i dyfu eich archwiliad creadigol sy’n eich caniatáu i adeiladu portffolio o brofiadau o amrywiol ddisgyblaethau perfformiad ynghyd â phrofiadau yn y diwydiant. Cwrs hynod ymarferol yw hwn sy'n eich ymdrwytho mewn ymarfer rhyngddisgyblaethol blaengar gan eich paratoi i gamu i 21ain ganrif y diwydiant celfyddydau perfformio.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i ysgolion galwedigaethol neu brifysgol neu yn y pen draw i fyd gwaith. Bydd ein Cwrs L3 yn dysgu i chi’r sgiliau technegol i wneud i'ch gwaith sefyll allan a bydd yn rhoi’r wybodaeth a'r ysbrydoliaeth i chi i archwilio eich syniadau perfformiad eich hun. Mae gennym ymagwedd hyblyg gyda ffocws ar wneud perfformiad ar gyfer ystod o sefyllfaoedd gan gynnwys theatr gorfforol, perfformiad dramatig, ffilm, safle benodol, dawns gyfoes a theatr gerdd.
Mae gennym gysylltiadau diwydiant rhagorol a chyfleoedd cyfoethogi sy'n eich caniatáu i weithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant fel Frantic Assembly, Gwyn Emberton Dance a Theatr y Ffwrnes yn ogystal â chydweithio â meysydd eraill y diwydiannau creadigol.
Mae gennym gyfleusterau rhagorol, sy’n cynnwys theatr berfformio newydd â’r holl gyfarpar angenrheidiol a stiwdio ddawns eang yn ogystal ag amrywiol fannau ymarfer. Yn ogystal mae cyfleoedd i astudio dramor drwy raglen Erasmus.
Mae graddedigion cyrsiau’r adran Celfyddydau perfformio a Chelfyddydau Cynhyrchu wedi mynd ymlaen i astudio Actio a Theatr Dechnegol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Canolfan Ddrama Llundain ac Ysgol Actio Birmingham, Theatr Gerdd yn Ysgol Actio Guildford, Drama Gymhwysol a Theatr Gymunedol yn LIPA ac Ysgol Actio Birmingham a Dawns yn Middlesex, Roehampton, Prifysgol Dwyrain Llundain a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio / Dawns a’r Celfyddydau Cynhyrchu yn cynnwys 14 uned dros ddwy flynedd, sydd yn cwmpasu er enghraifft:
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys naill ai’r Fagloriaeth Cymru Uwch (Ôl-16) neu Sgiliau Hanfodol ynghyd ag uned iaith Gymraeg a Sgiliau Cyflogadwyedd.
Mae perfformiadau diweddar yn cynnwys:
Trywydd Dawns Lefel 3
Bydd Dawns yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu eich sgil fel perfformiwr dawns a choreograffydd mewn ystod o wahanol arddulliau dawns megis bale, jazz, dawns fasnachol a dawns gyfoes. Mae’n ffurf bleserus o ymarfer corff yn ogystal â bod yn ffordd o ryddhau creadigrwydd ac egni cadarnhaol. Cewch y cyfle i archwilio gweithiau dawns proffesiynol, gwerthfawrogi dawns mewn modd gwybodus a chreu eich coreograffi eich hun gyda golwg ar ei berfformio. Cyflwynir y cwrs gan dîm hynod fedrus a brwdfrydig mewn amgylchedd dysgu hamddenol ond heriol hefyd. Yn ychwanegol at gael eich dysgu gan y staff yn y coleg byddwch yn cael y cyfle i fynychu dosbarthiadau a gaiff eu harwain gan artistiaid proffesiynol sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y diwydiant ac sydd wedi dysgu mewn colegau dawns nodedig o gwmpas y wlad.
Mae perfformiadau/Gweithdai diweddar yn cynnwys:
Trywydd y Celfyddydau Cynhyrchu Lefel 3
Mae'r rhaglen Lefel 3 ddwy flynedd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau yn y Celfyddydau Cynhyrchu (goleuo, sain, adeiladu set, peintio golygfeydd, gwneud modelau a rheoli llwyfan). Anogir dysgwyr i fod yn annibynnol, yn ymchwilgar ac yn gallu ymateb i ofynion gwaith cynhyrchu ar gyfer theatr. Drwy gydol y rhaglen bydd dysgwyr yn ymweld â theatrau lleol a chenedlaethol, mannau perfformio eraill a sioeau masnach yn y DU. Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn hyfforddiant sy’n benodol i’r diwydiant.
Asesir unedau yn fewnol. Hefyd byddwch yn creu prosiect mawr terfynol.
Bydd angen i bob ymgeisydd fynychu gweithdy a chyfweliad ac arddangos lefel gallu. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad. Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y Lefel 3 gael o leiaf 5 TGAU gradd A* - C a rhaid iddynt gynnwys Mathemateg a Saesneg. Mae Saesneg a Mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs.
Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.