Skip to main content
Slide 1
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl
Cwrs Ar-lein

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar roi’r wybodaeth i ddysgwyr i adnabod ystod o gyflyrau iechyd meddwl, sut i gychwyn sgwrs gefnogol a phryd a sut i gyfeirio person i geisio cymorth proffesiynol priodol.

Slide 1
Cyflwyniad i Gymorth Cyntaf i Anifeiliaid
Lefel 4

Dylai myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl dysgu o bell ar-lein hwn ennill gwerthfawrogiad o egwyddorion ac arferion rhoi cymorth cyntaf i anifeiliaid mewn ystod o rywogaethau, ynghyd â dealltwriaeth o’r dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol perthnasol.

Ysbrydoli Dysgwyr.

Datblygu Busnes ac Arloesi yn Ne Orllewin Cymru

Coleg Sir Gâr, ynghyd â Choleg Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw’r darparwr mwyaf yn y rhanbarth ar gyfer hyfforddiant i’r gweithlu.  Mae’r grŵp yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi i gefnogi unigolion, unig fasnachwyr, cwmnïau preifat bach, sefydliadau rhyngwladol mawr a’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Pa gyrsiau fydd o fudd i fi neu fy musnes?

Ar ein tudalen ‘Cyrsiau Hyfforddi’ ceir sampl bach o’r cyrsiau hyfforddi mwyaf poblogaidd rydym ni’n eu cynnig. Mewn gwirionedd rydym ni’n cynnig llawer gormod o gyrsiau ac opsiynau i’w rhestru’n gyfleus mewn un man. Drwy eich cyflwyno eich hun gyda’r ffurflen gyswllt isod, bydd un o’n tîm o swyddogion cyswllt cyflogaeth penodol yn cysylltu i drafod eich anghenion busnes unigryw er mwyn datblygu ystod o ddatrysiadau hyfforddi cyffrous ac amrywiol yn seiliedig ar eich amcanion personol neu’ch amcanion busnes.

Ardystiedig neu Achrededig?

Rydym ni’n cynnig amrywiaeth enfawr o gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ac sy’n seiliedig naill ai ar ardystiad y gwerthwr neu achrediad gan gorff dyfarnu. Mae’r rhain yn cynnwys er enghraifft PRINCE2 a CIMA, AAT yn ogystal â chyrff dyfarnu fel ILM, City and Guilds a Highfield i sicrhau bod eich hyfforddiant yn sicr o ran ansawdd, yn drosglwyddadwy ac yn cael ei gydnabod gan y diwydiant.

Members of the Llanelli Scarlets rugby squad visit local business Coaltown Coffee

Gorffennaf 06, 2020

Cefnogi Busnes

Cefnogi Busnes


Gydag enw da am ein gwaith gyda busnes, rydyn ni’n darparu ystod o wasanaethau arbenigol i gefnogi eich anghenion busnes. Gan weithio gyda chyflogwyr, mae gennym hanes nodedig o gyflwyno hyfforddiant arloesol a chefnogaeth mewn cydweithrediad â diwydiant preifat a'r sector cyhoeddus.

O hyfforddiant a achredir yn broffesiynol a chyrsiau hyfforddiant pwrpasol i gyngor a chefnogaeth busnes, gallwn ni gefnogi datblygiad sgiliau yn eich sefydliad er mwyn helpu eich pobl a’ch busnes i ffynnu.

Rydyn ni’n cynnig cyrsiau a hyfforddiant mewn ystod eang o feysydd pwnc a gan ein bod wedi ein lleoli yng nghanol De-orllewin Cymru, rydyn ni mewn sefyllfa strategol i gynnig cefnogaeth i’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar draws y rhanbarth a thu hwnt. 

Sylwadau oddi wrth gyflogwyr:


Bwydydd Gower View

Adam Davies - Rheolwr Cyllid

"Rydyn ni wedi gweithio gyda Choleg Sir Gâr ers peth amser bellach, yn uwchsgilio ein gweithlu amrywiol mewn cymwysterau Iechyd a Diogelwch. Mae’r tîm Datblygu Busnes wedi bod yn wych i gydweithio â nhw; yn trefnu hyfforddiant ar ein safle i fodloni ein hanghenion busnes gydag amserau cychwyn cynnar a hyfforddwyr sy’n wybodus ac yn barod i ymaddasu. Edrychwn ymlaen at barhau i adeiladu ar ein perthynas a chynyddu ymhellach proffil y diwydiant Bwyd a Diod fel dewis gyrfaol."

WRPA - Parc Y Scarlets

Nerys Henry, Rheolwr Datblygiad Personol WRPA (Scarlets)

"Rydyn ni’n cadw llygad ar agor yn gyson am gyfleoedd newydd ac amrywiol ar gyfer ein haelodau i helpu datblygu sgiliau newydd a chael blas ar fyd gwaith, y tu hwnt i’w hamgylchedd rygbi beunyddiol.

Roedd y cwrs barista a drefnwyd gan Goleg Sir Gâr ar y cyd â chwmni Coaltown Coffee, nid yn unig yn addysgiadol i’r aelodau a wnaeth fynychu ond roedd hefyd yn ymarferol, yn rhyngweithiol ac yn llawer o hwyl yn ogystal. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Choleg Sir Gâr ar fwy o gyrsiau hyfforddiant yn y dyfodol."

Oes angen help arnoch?

01554 748344
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
Members of the Llanelli Scarlets rugby squad visit local business Coaltown Coffee
Gorffennaf 06, 2020

Cyfleoedd Nawdd

Mae llawer o fusnesau’n falch i allu rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned y maen nhw’n gweithredu ynddi. Mae nawdd diwydiant yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn parhau i gael mynediad i’r adnoddau gorau ac astudio o fewn yr amgylchedd dysgu gorau posibl.

Pam Ddylen Ni Ymwneud  Nawdd?


Rydyn ni’n credu ei fod yn bwysig bod pob cwmni yn creu cyswllt a chynnig cefnogaeth i’w cymuned leol.

Mae cymunedau’n cefnogi busnesau; mae noddi yn ffordd wych o ddweud diolch trwy helpu eraill i gael mynediad i adnoddau dysgu gwych; yn y pen draw byddwch chi’n cefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth ar lefel sylfaenol.

Gall creu cyswllt rhwng eich sefydliad â’n colegau hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth o waith eich sefydliad.

Beth Alla I Noddi?


Gallwch chi ddewis noddi unrhyw beth o gyfraniad bach i gronfa galedi’r myfyrwyr i drefniant nawdd yn fwy, er enghraifft noddi’r Seremonïau Graddio neu noddi ardal o fewn y coleg fel ein Theatr yr Efail, Campfa Chwaraeon, Salonau Gwallt a Bwyty

Gall nawdd fod ar ffurf cyfraniad ariannol, darparu cyfarpar a deunyddiau neu ddarparu siaradwyr arbenigol i wella profiadau dysgu’r myfyrwyr.

Dyma ychydig o’r cyfleoedd noddi posibl:

Digwyddiadau

Seremoni Raddio – digwyddiad blynyddol ym mis Gorffennaf sydd â mwy na tua 2000 o gyfranogwyr

Dathlu Llwyddiant Myfyrwyr a Staff  – digwyddiadau blynyddol i gydnabod a dathlu cyflawniadau dysgwyr a staff o fewn ein meysydd cwricwlwm a rhaglenni.

Cyfarpar neu Adnoddau

Mae ein Coleg bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn gweithio gydag adnoddau a chyfarpar gorau’r sector.

Gall nawdd neu roddion helpu ein cefnogi i ddarparu adnoddau ychwanegol a fyddai fel arall y tu hwnt i’n cyllidebau cyfyngedig; mae mynediad i dechnoleg flaengar y sector ac adnoddau cyfarpar yn gallu gwella profiad dysgu myfyriwr yn sylweddol ac agor allan amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith ar ddiwedd ei gwrs.

Rhaglenni’r Coleg

Mae rhai noddwyr yn dewis noddi rhaglenni penodol yn y Coleg sydd â chysylltiad uniongyrchol â’u busnes. Mae yna ystod eang iawn o raglenni sy’n golygu ar gyfer y rhan fwyaf o sectorau diwydiant y bydd yna gyfle priodol.

Cronfa Galedi’r Myfyrwyr

Mae rhai noddwyr yn dymuno cyfrannu at gronfa galedi’r myfyrwyr sy’n caniatáu i’r Coleg gefnogi myfyrwyr drwy amserau anodd er mwyn eu cynnal ar eu cyrsiau pan fod ganddynt amgylchiadau personol anodd i ddygymod â nhw.

Os hoffech chi drafod unrhyw gyfleoedd nawdd, mae croeso i chi gysylltu â:

Naldo Diana
Ymgysylltu â Busnes ac Arloesedd

01554 748115

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Gorffennaf 06, 2020

Prentisiaethau - Cyflogwyr

Prentisiaethau - Cyflogwyr


Cynllunnir prentisiaethau o gwmpas anghenion eich busnes a gallant helpu i drawsffurfio eich sefydliad trwy gynnig llwybr i fachu talent newydd ffres.

Gall fod yn gyfle i uwchsgilio aelod presennol o’r staff neu gyflogi aelod newydd sbon o’r tîm i ymuno â’ch gweithlu.

Os ydych chi’n dewis ailhyfforddi aelodau o’ch staff neu gyflogi prentis, gall helpu gyda:

  • Lleihau costau busnes
  • Datblygu gweithlu medrus proffesiynol
  • Darparu cyfleoedd i ehangu eich busnes
  • Gwella cynhyrchiant
  • Meithrin talent i wella eich gwasanaethau
  • Rhoi hwb creadigol i’ch busnes
  • Adeiladu sylfeini busnesau cryfach
  • Ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
Ailhyfforddi

Oes gennych chi aelodau staff presennol sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau newydd fydd o fantais i’ch busnes?

Staff newydd

Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni helpu chi i ddod o hyd i’r prentis perffaith i ateb eich anghenion busnes.

Beth mae cyflogwyr yn dweud am fanteision prentisiaethau ?

  • Gweithlu mwy ymrwymedig:

    Mae 92% o gyflogwyr sy’n cyflogi Prentisiaid yn credu bod prentisiaethau yn arwain at weithlu mwy brwdfrydig a bodlon

  • Trosiant staff is, lleihad o ran costau recriwtio:

    Mae 83% o gyflogwyr sy’n cyflogi prentisiaid yn dibynnu ar eu rhaglen brentisiaethau i ddarparu’r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol

  • Delwedd yn well a boddhad cwsmeriaid yn fwy:

    Mae 81% o ddefnyddwyr yn ffafrio defnyddio cwmni sy’n cymryd prentisiaid

  • Ysbryd cystadleuol cynyddol:

    Mae 80% o’r cyflogwyr hynny sy’n cyflogi prentisiaid yn cytuno eu bod yn gwneud eu gweithle’n fwy cynhyrchiol

Ydych chi’n edrych am brentisiaeth?

Hyfforddi, astudio’n rhad ac am ddim ac ennill cyflog wrth i chi ddysgu

Gweld ein cyrsiau Prentisiaeth

Prentisiaeth Meysydd Sector

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynnig ystod amrywiol o Brentisiaethau mewn:

  • Cyfrifeg

  • Amaethyddiaeth a Pheirianneg Ar Dir

  • Adeiladu, Crefftau a’r Amgylchedd Adeiledig

  • Blynyddoedd Cynnar, Plant

  • Peirianneg a Gweithgynhyrchu

  • Cadwraeth Amgylcheddol

  • Ceffylau

  • Trin Gwallt

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Lletygarwch ac Arlwyo

  • Adnoddau Dynol

  • TG

  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur

  • Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

  • Nyrsio Milfeddygol

Cysylltwch â’n Tîm Prentisiaethau i drafod yr opsiynau a all gefnogi eich anghenion cyflogaeth yn y dyfodol!

01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Mae'r Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

Gorffennaf 06, 2020

Prosiectau

Prosiectau


Camu ‘Mlaen Sioe Deithiol Menter Wledig


Dan arweiniad Coleg Sir Gâr, mae’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau llwyddiannus gan gynnwys Wrights Emporium a chwmni Coal Town Coffee lle cafodd y prosiect ei lansio.

Mae Camu ‘Mlaen wedi’i deilwra i fynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan y rheiny mewn ardaloedd gwledig i gael mynediad i hyfforddiant entrepreneuriaeth yn ogystal â mynediad i sgiliau lefel uchel wedi’u hariannu’n llawn a’u teilwra ar gyfer pob unigolyn am ddim.

Oes angen help arnoch?

01554 748344
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

AHWW


Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru (AHWW), sefydlwyd i gefnogi diwydiant ffermio Cymru drwy gyflwyno datrysiadau i rai o’i heriau allweddol o ran iechyd a lles anifeiliaid.

www.ahww.cymru

Prosiect Slyri Project


Bydd y prosiect newydd hwn yn lleihau gwastraff fferm mewn modd arloesol ac yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd a mynd i'r afael ag effaith y diwydiant amaethyddol ar yr amgylchedd trwy ddatblygu system dihysbyddu a phuro i reoli slyri ar ffermydd.

http://www.slurryprojectwales.co.uk/

Slide 2
Jane Thope, North Yorkshire
Highfield Level 2 Award for Personal Licence Holders (APLH)

"I very much enjoyed doing the course, it was so easy to follow and gave me all the information I needed."

Slide 2
Jane Thope, North Yorkshire
Highfield Level 2 Award for Personal Licence Holders (APLH)

"I very much enjoyed doing the course, it was so easy to follow and gave me all the information I needed."

previous arrow
next arrow

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.