Buddion.
Datblygu Busnes ac Arloesi yn Ne Orllewin Cymru
Coleg Sir Gâr, ynghyd â Choleg Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw’r darparwr mwyaf yn y rhanbarth ar gyfer hyfforddiant i’r gweithlu. Mae’r grŵp yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi i gefnogi unigolion, unig fasnachwyr, cwmnïau preifat bach, sefydliadau rhyngwladol mawr a’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Pa gyrsiau fydd o fudd i fi neu fy musnes?
Ar ein tudalen ‘Cyrsiau Hyfforddi’ ceir sampl bach o’r cyrsiau hyfforddi mwyaf poblogaidd rydym ni’n eu cynnig. Mewn gwirionedd rydym ni’n cynnig llawer gormod o gyrsiau ac opsiynau i’w rhestru’n gyfleus mewn un man. Drwy eich cyflwyno eich hun gyda’r ffurflen gyswllt isod, bydd un o’n tîm o swyddogion cyswllt cyflogaeth penodol yn cysylltu i drafod eich anghenion busnes unigryw er mwyn datblygu ystod o ddatrysiadau hyfforddi cyffrous ac amrywiol yn seiliedig ar eich amcanion personol neu’ch amcanion busnes.
Ardystiedig neu Achrededig?
Rydym ni’n cynnig amrywiaeth enfawr o gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ac sy’n seiliedig naill ai ar ardystiad y gwerthwr neu achrediad gan gorff dyfarnu. Mae’r rhain yn cynnwys er enghraifft PRINCE2 a CIMA, AAT yn ogystal â chyrff dyfarnu fel ILM, City and Guilds a Highfield i sicrhau bod eich hyfforddiant yn sicr o ran ansawdd, yn drosglwyddadwy ac yn cael ei gydnabod gan y diwydiant.
Hyfforddiant Pwrpasol?
Y peth pwysicaf yw sicrhau eich bod yn buddsoddi’n ddoeth ynoch chi eich hun neu eich busnes. Bydd ein tîm o Swyddogion Datblygu Busnes yn cynnal dadansoddiad sgiliau gyda chi neu eich gweithlu ac yn helpu i ganfod datrysiadau fydd yn bodloni eich anghenion a’ch cyllideb. Mewn llawer o achosion, datrysiad pwrpasol yw’r opsiwn a ffefrir, lle byddwch chi a/neu eich gweithwyr yn dilyn nifer o fodiwlau sydd wedi’u dethol yn ofalus i fodloni eich union anghenion. Drwy addasu nifer fach o fodiwlau sydd eisoes yn bodoli o gymwysterau cydnabyddedig byddwn yn cyflwyno cynllun hyfforddi â ffocws i chi heb y baich o orfod dilyn cymhwyster hirfaith.
Ymhle y gallaf i astudio?
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a gyda’i gilydd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Yn ogystal â hyfforddiant ar y campws rydym ni’n cynnal hyfforddiant ac asesu yn eich gweithle, unrhyw le yng Nghymru.
A allaf i astudio ar-lein?
Gallwch, rydym ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau hyfforddi gan gynnwys wyneb yn wyneb, ar-lein a chyfunol (h.y. wyneb yn wyneb ac ar-lein). Mae poblogrwydd astudio ar-lein yn cynyddu ac yn cynnig nifer o fanteision gan gynnwys; dyddiadau dechrau dros 51 wythnos, mynediad 24/7, cymorth gan diwtor go iawn dros ebost a ffôn, hyblygrwydd i gydweddu ag ymrwymiadau eraill a dim costau teithio.
Mae dysgu ar-lein hefyd yn well i’r amgylchedd gan nad yw’n cynhyrchu dim CO2 o deithiau ffordd a gan amlaf caiff cyrsiau ar-lein eu cefnogi gan ddeunydd cwrs rhyngweithiol di-bapur.
Un o brif fanteision dysgu ar-lein yw’r gallu i gofrestru 51 wythnos y flwyddyn, yn wir mewn rhai achosion, fel Diogelwch Bwyd Lefel 2 gallwch gofrestru, astudio a chwblhau eich cwrs ar yr un diwrnod! (Hyperlink to virtual college)
Datblygu Cyrsiau Newydd
Rydym ni’n gwneud mwy na chyflwyno cymwysterau sydd eisoes yn bodoli. Rydym ni’n gweithio gyda busnesau lleol a’r llywodraeth i ddatblygu cymwysterau newydd fydd yn sicrhau bod Cymru’n dal i dyfu a datblygu yn yr 21ain ganrif. Yn ystod 2018 rydym ni wedi datblygu cymwysterau newydd mewn Ffenestru, i’r sector Gwydr Ffenestri, cymwysterau mewn Gwybodeg Iechyd, i gynorthwyo’r gwasanaeth iechyd i bontio i oes newydd o gofnodion cleifion digidol, cymwysterau DPP lefel 4 i’r rheini sy’n gweithio ym maes Gofal Anifeiliaid a hefyd hyfforddiant Nwy Meddygol i’r rheini sy’n gweithio yn y sector gofal. Yn ystod 2019 byddwn yn parhau i gydweithio’n agos gyda chyflogwyr ac asiantaethau datblygu sgiliau i nodi cymwysterau newydd, felly cysylltwch â ni os oes gennych chi syniad neu ofyniad hyfforddi mewn maes nad yw’n bodoli eto!
Ydy hi’n bosibl i fi gael cyllid?
Bydd ein tudalen cyllido’n egluro mwy, ond mewn rhai achosion mae’n bosibl y gallwn ni ddarparu cyllid neu eich cyfeirio at sefydliad partner sy’n gallu cael cyllid ar eich rhan. Mae cyllid yn amodol ar gymhwysedd, ond os oes cyllid ar gael, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth llawn neu rannol pan fyddwch yn cwblhau eich rhaglen hyfforddi neu gymhwyster.
Oes rhaid i fi fyw neu weithio yng Nghymru?
Nac oes, mae canran fawr o’n dysgwyr ar-lein yn byw y tu allan i Gymru, ac rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cenedlaethol i gyflenwi DPP yn Lloegr a thu hwnt. Rydym ni wrthi’n cyfieithu ein rhaglen Gwybodeg Iechyd i Mandarin ac mae gennym brofiad sylweddol yn cyflwyno hyfforddiant mor bell i ffwrdd ag Asia a’r Unol Daleithiau.
Sut alla i ddarganfod mwy?
I drafod eich anghenion hyfforddi ymhellach...
01554748344
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Geirda Fferm Folly
