Gydag enw da am ein gwaith gyda busnes, rydym yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol i gefnogi eich anghenion busnes. Gan weithio gyda chyflogwyr, mae gennym hanes da sylweddol o gyflwyno hyfforddiant arloesol a chefnogaeth mewn cydweithrediad a diwydiant preifat a'r sector cyhoeddus.
Cefnogi Partneriaethau Busnes
O hyfforddiant gydag achrediad proffesiynol a chyrsiau hyfforddi pwrpasol i gyngor a chefnogaeth busnes, rydym yn gallu cefnogi datblygiad sgiliau yn eich sefydliad er mwyn helpu eich pobl a'ch busnes i ffynnu.
Rydym yn cynnig cyrsiau a hyfforddiant mewn ystod eang o feysydd pwnc a gan ein bod wedi ein lleoli yng nghanol De Orllewin Cymru, rydym mewn sefyllfa strategol i allu cynnig cefnogaeth i'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector ar draws y rhanbarth a thu hwnt.
CYMORTH I FUSNESAU:
CYNLLUN PUM CAM I HELPU
EICH BUSNES I DYFU!
Datblygu'r Gweithlu ar Gyfer Eich Sefydliad
Mae datblygu a gwella sgiliau eich gweithlu yn allweddol i dwf busnes.
Rydym mewn sefyllfa berffaith i gyflwyno rhaglenni hyfforddiant i staff o bob gallu, gan gynnig i'ch busnes yr enillion gorau posibl ar fuddsoddiad.
Rydym yn gallu darparu dadansoddiad anghenion hyfforddiant yn rhad ac am ddim i'ch helpu i ddiffinio eich gofynion hyfforddiant er mwyn datblygu'r strategaeth hyfforddiant sy'n iawn ar gyfer eich gweithwyr a'ch busnes chi.
Cyllid a Chymorth
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, mae yna nifer o fentrau rydym yn gallu rhoi cyngor yn eu cylch.
Ydych Chi Am Wybod Mwy?
Cysylltwch a ni heddiw i wybod mwy am sut gallwn ni gefnogi eich busnes.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.