Menter newydd gan Lywodraeth Cymru yw Cyfrif Dysgu Personol a gyflwynwyd i fynd i’r afael â dau fater cynyddol: y rhwystrau sy’n atal dysgu fel oedolyn a'r prinder sgiliau cynyddol sy'n wynebu sectorau blaenoriaeth ar hyn o bryd.
Gallai Cyfrif Dysgu Personol roi’r cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa neu symud i sector a all gynnig cyfle i chi ddatblygu a symud ymlaen, tra hefyd yn darparu llwybr allan o dlodi mewn gwaith a thangyflogaeth.
19 oed neu’n hŷn
Yn ennill llai na £26,000 y flwyddyn
Yn gweithio ar hyn o bryd i asiantaeth neu ar gontractau Dim Oriau
Ar ffyrlo ar hyn o bryd (gydag unrhyw gyflog)
Mewn perygl o golli swydd
".... bydd yr hyfforddiant yn cael effaith hirdymor ar y rheiny a gymerodd y cwrs gan ein bod i gyd wedi dysgu llawer am Ddementia a gallwn i gyd nawr ddeall y clefyd hwn yn llawer gwell, ynghyd â bod yn fwy ymwybodol o'r arwyddion a'r symptomau sy’n gysylltiedig â dementia. Bydd hefyd yn helpu pob gofalwr i ddarparu gwell gofal person-ganololog i'n defnyddwyr gwasanaeth."
Paul Watts, Arweinydd Tîm Gofal. Gofal CDA, Abertawe
Cysylltwch am ragor o wybodaeth, i gwblhau eich Cynllun Dysgu Unigol a 'Newid eich Stori'