Cyllido.
Cyllid i gefnogi eich anghenion hyfforddi
Y flaenoriaeth bwysicaf yw dod o hyd i raglen hyfforddi sy’n cyd-fynd â’ch anghenion busnes ac yna ceisio canfod datrysiad i’ch cefnogi gyda’r buddsoddiad ariannol angenrheidiol. Yn anffodus mewn cynifer o achosion mae cwmnïau hyfforddi’n dechrau drwy ganfod llwybr cyllido ac yna gosod rhaglen hyfforddi sy’n bodloni anghenion y corff cyllido yn hytrach nag anghenion y gweithlu. Yng Ngholeg Sir Gâr â Choleg Ceredigion byddwn ni bob amser yn dechrau drwy ganfod hyfforddiant fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eich busnes er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr elw gorau ar eich buddsoddiad, sef, gan amlaf, amser y staff!
Pa gyllid yw’r gorau?
Bydd ein tîm o Swyddogion Datblygu Busnes yn trafod amrywiaeth o opsiynau gyda chi. Mewn rhai achosion gall Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion brosesu’r holl waith papur, ond mewn achosion eraill mae’n bosibl y byddwn ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda chyllidwyr allanol fel y cyngor lleol, Gyrfaoedd Cymru, Remploy, yr Adran Gwaith a Phensiynau ac ati i ddod o hyd i’r datrysiad gorau i chi a’ch busnes. Ym mhob achos byddwn yn eich cynghori ar yr opsiynau sydd ar gael a beth sydd ei angen i sicrhau cymhwysedd.
A fydd fy rhaglen hyfforddi am ddim?
Does dim un rhaglen hyfforddi am ddim, ym mhob achos bydd rhywun yn talu am yr hyfforddiant ar eich rhan. Os nad eich sefydliad chi fydd yn gwneud, bydd partner arall fel Llywodraeth Cymru neu’r UE yn talu. Mewn rhai achosion gallai fod cyllid i dalu canran sylweddol, neu’r holl ffioedd sy’n gysylltiedig ag astudio cymhwyster cyflawn, ond mae’n bwysig cydnabod bod rhaid i chi gwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus er mwyn cael y cymorth ariannol angenrheidiol.
Mae enghreifftiau cyllido’n cynnwys:
Mae Sgiliau ar gyfer Diwydiant yn gallu cyllido hyd at 70% o gost nifer fawr o gymwysterau sy’n ymwneud â datblygu diwydiannau allweddol yng Nghymru. Yn anffodus dim ond mewn rhai siroedd yng Nghymru mae cyllid Sgiliau ar gyfer Diwydiant ar gael.
Mae Cyllid Prentisiaethau’n cwmpasu 100% o’r ffioedd sy’n gysylltiedig â fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae’n bwysig cydnabod y gallai fod elfennau mewn fframwaith nad ydynt yn flaenoriaeth i’ch sefydliad, ond rhaid cwblhau’r fframwaith cyfan o fewn yr amserlen a gytunir er mwyn hawlio’r holl gymorth ariannol sydd ar gael.
Gallai hyd at £1500 o gyllid ReACT / Mynediad fod ar gael i unigolion sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, neu a gaiff eu gwneud yn ddi-waith ac sy’n ceisio sicrhau cymhwyster/cymwysterau sydd eu hangen i gael cyflogaeth lwyddiannus yn eu dewis sector. Fel gydag opsiynau cyllido eraill mae’n hanfodol fod ymgeiswyr yn derbyn na chaiff y cyllid ei ryddhau hyd nes y cwblheir y cynllun dysgu a gytunir yn llwyddiannus.
Un o’r opsiynau mwyaf poblogaidd yw Hunan-gyllido, ac er ei fod yn golygu cost ariannol uniongyrchol i chi neu eich sefydliad, mae’r opsiwn hwn yn sicrhau eich bod yn derbyn yr union hyfforddiant rydych chi’n ei ddymuno, ar adeg ac mewn lle sy’n cyd-fynd â’ch anghenion chi. Os ydych chi, neu eich sefydliad, yn cyllido eich cynllun hyfforddi’n llawn, gallwch deilwra’r cynnwys i fodloni eich union ofynion, yn hytrach na gofynion y corff cyllido. Mae arbediad cost anuniongyrchol anferth yn dod yn sgil Hunan-gyllido sy’n aml yn cael ei anghofio, sef amser y gweithwyr! Drwy ddatblygu eich cynllun hyfforddi pwrpasol eich hun gallwch sicrhau bod eich anghenion yn cael eu bodloni’n brydlon, fel arfer gyda nifer fach o sesiynau hyfforddi mewn amserlen sy’n gweddu i chi - sy’n golygu mai chi sy’n rheoli’n llwyr.
Dylid nodi bod yr holl opsiynau cyllido yn ddarostyngedig i geisiadau a’u bod ddim ond ar gael i nifer penodol o ymgeiswyr mewn unrhyw flwyddyn ariannol neu academaidd.
Sut alla i ddarganfod mwy?
I drafod eich anghenion hyfforddi ymhellach...
01554748344
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..