

Cyrsiau Cyfrifiadurol
Croeso i’r Gyfadran Cyfrifiadura a Thechnolegau Peirianneg yng Ngholeg Sir Gâr. Rydym yn cynnig cyrsiau o lefel un i radd anrhydedd mewn Cyfrifiadura a Pheirianneg, ar ein Campws yn y Graig, a lefel un i lefel pedwar mewn cerbydau modur, ym Mhibwrlwyd yng Nghaerfyrddin.
Ein ffocws yw cynnig hyfforddiant diwydiannol perthnasol, mewn cyfleusterau modern i safon ragorol. Y prif lwybrau dilyniant ar gyfer myfyrwyr yw i brentisiaethau neu brifysgol, ac rydym hefyd yn cynnig prentisiaethau gradd mewn Peirianneg, sy’n cyfuno’r ddau. Gallwch chi astudio mewn nifer o ffyrdd - yn llawn amser neu ran-amser, yn y gwaith yn unig, fel prentis ac rydym yn cynnig cyrsiau byr. Mae’r rhaglen uwch mewn Peirianneg a Chyfrifiadura yn rhaglen ddwys blwyddyn o hyd, sy’n cynnig hyfforddiant ychwanegol a phrofiad gwaith gyda’r nod o sicrhau prentisiaeth.
Mae Cyfrifiadura, sydd wedi’i leoli ar Gampws y Graig, wedi’i rannu rhwng Cyfryngau Rhyngweithiol (gyda phwyslais ar raffeg, amlgyfryngau a meddalwedd arbenigol) a Chyfrifiadura (gydag ystod o feysydd yn cynnwys - datblygu’r we, rhwydweithio a saernïaeth gyfrifiadurol).