Gyrfaoedd.
Ydych chi angen cymorth i archwilio opsiynau gyrfaol a dilyniant?
Ydych chi’n ansicr ynghylch eich camau nesaf neu gyrchnodau hirdymor? Neu os nad oes syniad o gwbl gennych ble i ddechrau wrth edrych am swydd neu yrfa yn y dyfodol?
Beth bynnag sydd ei angen arnoch, gall ein tîm Gyrfaoedd eich helpu.
Ein cenhadaeth yw rhoi’r sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau i chi sy’n ysbrydoli hyder a chodi dyheadau er mwyn cyflawni llwyddiant gyrfaol.
Mae ein gwefan yn cynnig mynediad i adnoddau ar-lein allweddol a gwybodaeth i helpu tywys y myfyriwr trwy gynllun gweithredu proffesiynol, personol.
Beth bynnag yw eich oedran, yn astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, gallwch gael mynediad i gyfarwyddyd gyrfaol yn un o Ganolfannau Gyrfa Cymru. Yn ychwanegol, bydd pob dysgwr llawn amser yn derbyn rhaglen gynlluniedig o addysg a chyfarwyddyd gyrfaol trwy diwtorialau, a fydd yn ategu canlyniadau dysgu cydnabyddedig.
Bydd ein dull personoledig yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i chi ynghyd â chyngor gan y tîm gyrfaoedd i ddeall yn well y sgiliau a chymwyseddau sydd eu hangen i lwyddo mewn swydd o’r dydd cyntaf.
Gall Ymgynghorwyr Gyrfaoedd o Gyrfa Cymru roi cymorth i chi ar-lein yn www.careerswales.com neu dros y ffôn. Gallant eich helpu i ddewis gyrfa, addysg uwch, a chael mynediad i wybodaeth yrfaol a galwedigaethol gyfredol, chwilio am swyddi a’r swyddi gwag diweddaraf.
Efallai y byddwch hefyd am ymweld â’n digwyddiad blynyddol SkillsCymru Sir Gaerfyrddin ar Barc y Scarlets yn Llanelli. Yma rydym yn ymuno â Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwydydd Castell Howell i ddod â rhai o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant mwyaf Gorllewin Cymru at ei gilydd.
Gyda mwy na 100 o arddangoswyr o bob cwr o Gymru yn mynychu’r digwyddiad dau-ddiwrnod, cewch gyfle i gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb, profi eich sgiliau ar stondinau Troi-eich-Llaw, a dod i wybod mwy am swydd eich breuddwydion. Hefyd gallwch chi ddod i wybod mwy am yrfaoedd a phrentisiaethau gyda chwmnïau megis, Heddlu Dyfed Powys, Dŵr Cymru, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Cyngor Sir Caerfyrddin, Rathbone, Cwmni Dur Tata a llawer mwy.
Cysylltwch â 01554 748081 i wneud apwyntiad

Marc Gyrfa Cymru: Gwella Parhaus wrth gyflwyno’r Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith