Lle mae eraill yn gweld risg, rydych chi’n gweld cyfle.
Rydych yn ffynnu ar newid.
Rydych yn dychmygu posibiliadau newydd: datrysiadau, cynhyrchion, y syniad mawr nesaf!
Nid yw dilyn eich cysyniad yn ddewis; mae'n gred ddwys sy'n eich dilyn chi i bobman. Ymddiriedwch yn y reddf honno. Porthwch hi.
P’un a ydych chi’n lansio menter newydd, neu’n ymuno â busnes sy’n dod i’r amlwg, rydych wedi dod i’r lle iawn.
Ymunwch â chymuned ddysgu wirioneddol fywiog.
Yn ychwanegol at ystod eang o gyfleoedd byddwn yn eich cefnogi i gael cyhoeddusrwydd, ennill sgiliau a chael profiad byd go iawn mewn dechrau busnes. Rydym yn cynnig hacathonau amlddisgyblaethol, mentora gan arbenigwyr yn y diwydiant, cyllid i ddechrau busnes, cystadlaethau a digwyddiadau gyda’n rhwydwaith entrepreneuraidd helaeth.