Fel cyfryngwr cymeradwy ar gyfer rhaglen Kickstart £2 biliwn y Llywodraeth sydd wedi’i hanelu at helpu pobl ifanc yn ôl i mewn i gyflogaeth, mae Coleg Sir Gâr yn annog busnesau i gysylltu.
Mae’r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sy'n hawlio Credyd Cynhwysol. Fel cyfryngwr, bydd Coleg Sir Gâr yn partneru â busnesau lleol i greu'r gofyniad lleiaf o 30 o gyfleoedd gwaith ar gyfer pob cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Yn ychwanegol i'r uchod, gall Coleg Sir Gâr eich helpu chi i hyfforddi pobl ifanc sy'n cael eu cyflogi trwy'r cynllun yn ogystal â chynnig cefnogaeth cyflogadwyedd i bobl ifanc. Gall hyn gynnwys:
Mae swm o £1,500 fesul swydd hefyd ar gael ar gyfer costau sefydlu, cefnogaeth a hyfforddiant.
wneud cais am y cyllid, waeth beth fo'i faint, cyhyd â bod y swyddi sy'n cael eu creu yn newydd.
Ni allant ddisodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi'u cynllunio, ac ni allant beri i weithwyr neu gontractwyr presennol golli neu leihau eu cyflogaeth.
Ar ôl i leoliad gael ei greu, yna gall ail berson ifanc ei gymryd unwaith y bydd y person ifanc cyntaf wedi cwblhau ei dymor o chwe mis.
Er mwyn gwneud cais am gyllid trwy’r cynllun bydd angen: