Rydym yn cynnig dros 1000 o gyrsiau, gellir cael mynediad i lawer ohonynt yn fyd-eang ac rydym yn gweithio gyda chyrff dyfarnu sy'n cynnwys EdExcel, BCS, Sage, PRINCE2 a City and Guilds.
Rydym wedi datblygu cyrsiau newydd yn ddiweddar yn benodol ar gyfer athrawon ac rydym yn cynnig cyrsiau mewn TG a busnes ar gyfer defnyddwyr Apple Mac.
Amdanon ni
Agorodd Coleg Rhithwir Coleg Sir Gâr am y tro cyntaf yn 1998, gan gynnig nifer fach o gyrsiau TG. Ers datblygiad technoleg, sydd wedi newid meddylfryd pobl tuag at ddysgu ar-lein a'r gallu i gynnig ein cyrsiau yn fyd-eang, rydym wedi datblygu ein darpariaeth i gynnig ystod gyffrous o gyrsiau achrededig.
Rydym yn cynnig Hyfforddiant Cwmni ac Unigolyn
Rydym yn darparu ar gyfer y cwmni neu'r sefydliad yn ogystal â'r unigolyn, gan weithio'n agos gyda'n myfyrwyr, cyflogwyr a'n hymgynghorwyr gyrfa i gefnogi anghenion Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Beth sy'n unigryw am y Coleg Rhithwir?
Rydym yn cynnig gwiriwr llythrennedd a rhifedd sy'n ddewisol ac yn rhad ac am ddim cyn i bobl ddechrau eu cwrs
Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau yn cynnig asesiadau sy'n medru cael eu cwblhau gartref neu yn y gwaith
Mae tocynnau anrheg ar gael ar gyfer y cyrsiau
Caiff y cyrsiau eu cynnal gan diwtoriaid go iawn
Talu
Gellir talu drwy siec, cerdyn credyd, Paypal neu gallwn anfon anfoneb i'ch cyflogwr neu bartner ariannu.
Graig Campus Sandy Road Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Coleg Sir Gar is a company limited by guarantee registered in England and Wales No. 08539630 and is a registered charity No. 1152522. The registered office is at The Graig Campus, Sandy Road, Pwll, Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN