Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol, sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol.
Mae'r tîm yn cadw cysylltiadau cryf â'r sector cerbydau modur ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod addysgu a dysgu'r rhaglen yn gyfredol ac yn berthnasol.
Hefyd, cewch y cyfle i fynd ar ymweliadau addysgol sy'n anelu at gyfoethogi eich astudiaethau, ysbrydoli dysgu a chodi dyheadau.