Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol perthynol cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ysgafn.
Ymgymerir â chyflwyno'r rhaglen mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi eu cyfarparu â’r cyfarpar a’r offer diweddaraf, a ddefnyddir yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.
Bydd y cwrs yn rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanig cerbydau modern.
Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella eich hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth.
Hefyd, neilltuir tiwtor personol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda'ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.
Cipolwg
Llawn Amser
1 flwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol, sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol.
Mae'r tîm yn cadw cysylltiadau cryf â'r sector cerbydau modur ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod addysgu a dysgu'r rhaglen yn gyfredol ac yn berthnasol.
Yn ystod y flwyddyn academaidd, mae dysgwyr yn cael cyfleoedd i ymgymryd â phrofiad gwaith, gan eich galluogi i ddatblygu, atgyfnerthu a chymhwyso'ch astudiaethau. Hefyd, cewch y cyfle i fynd ar ymweliadau addysgol sy'n anelu at gyfoethogi'ch astudiaethau, ysbrydoli dysgu a chodi dyheadau.
Cynnwys y Rhaglen
Mae'r unedau o fewn y rhaglen yn cynnwys y setiau pwnc gwybodaeth a sgiliau cerbydau modur canlynol:
Iechyd, diogelwch a chadw trefn dda
Rolau swyddi cefnogi
Deunyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur
Cynnal a chadw arferol
Systemau mecanyddol, iro ac oeri injan
Systemau tanwydd, tanio, aer a gwacáu
Systemau trydanol
Systemau siasi
Systemau trawsyriant a llinell yriant
Yn ogystal â'r unedau uchod, byddwch hefyd yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol:
Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif
Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Os oes angen, cewch gyfle i ymgymryd â TGAU Saesneg iaith a datblygu mathemateg, fel rhan o'r cwrs.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i'r Diploma lefel tri mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur neu raglen brentisiaeth.
Asesu'r Rhaglen
Asesir gwybodaeth bynciol a sgiliau trwy brofion amlddewis ar-lein, asesiadau ysgrifenedig, ac asesiadau tasgau ymarferol.
Gofynion y Rhaglen
Gofynnwn fod gennych:
Diploma Lefel un mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur.
Cymwysterau TGAU gradd D neu uwch mewn Saesneg iaith a mathemateg.
Bydd ymgeiswyr yn cael cyfweliad i ganfod eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.