Skip to main content

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 3

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 flwyddyn

  • Campws Pibwrlwyd

Mae gweithio yn y diwydiant cerbydau modur yn gyfle cyffrous i ddefnyddio eich sgiliau datrys problemau a’ch sgiliau mecanyddol i helpu pobl fynd yn ôl ar y ffyrdd a bod yn ddiogel arnynt.

Mae mecanics cerbydau’n gyfrifol am ddiagnosio, atgyweirio, a chynnal a chadw cerbydau, gan sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn.

Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol cysylltiedig cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ysgafn.   

Ymgymerir ag addysgu mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi'u cyfarparu â'r offer a'r cyfarpar diweddaraf a ddefnyddir yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.

Nod y rhaglen yw rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanic cerbydau modern.  

Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella eich hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth.  

Hefyd, neilltuir tiwtor personol i chi, a fydd yn eich cefnogi gyda'ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.

Nodweddion y Rhaglen

Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol. 

Mae'r tîm yn cadw cysylltiadau cryf â'r sector cerbydau modur ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod addysgu a dysgu'r rhaglen yn gyfredol ac yn berthnasol. 

Yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd gennych gyfleoedd i ymgymryd â phrofiad gwaith, gan eich galluogi i ddatblygu, atgyfnerthu a chymhwyso eich astudiaethau. Hefyd, cewch y cyfle i fynd ar ymweliadau addysgol sy'n anelu at gyfoethogi eich astudiaethau, ysbrydoli dysgu a chodi dyheadau.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r unedau o fewn y rhaglen yn cynnwys y setiau pwnc gwybodaeth a sgiliau cerbydau modur canlynol:

  • Iechyd, diogelwch a chadw trefn dda
  • Rolau swyddi cefnogi
  • Deunyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur
  • Diagnosio a chywiro diffygion trydanol ategol ar gerbydau
  • Diagnosio a chywiro diffygion injan cerbydau  
  • Diagnosio a chywiro diffygion system siasi 
  • Diagnosio a chywiro diffygion trawsyrru a llinell yriant cerbydau

Yn ogystal â'r unedau uchod, bydd dysgwyr hefyd yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol.

  • Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif
  • Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i raglen brentisiaeth.

Dull asesu

Asesir gwybodaeth bynciol a sgiliau trwy brofion amlddewis ar-lein, aseiniadau ysgrifenedig ac arsylwadau tasgau ymarferol.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Byddem yn gofyn am: 

  • Ddiploma Lefel dau mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur. 
  • Cymwysterau TGAU ar radd C neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg iaith  a mathemateg. 

Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad i ganfod eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.     

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 3

Disgrifiad o'r Rhaglen

Bydd y rhaglen ddysgu hon yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol perthynol cydnabyddedig mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ysgafn.   

Ymgymerir ag addysgu mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai wedi'u cyfarparu â'r cyfarpar a'r offer diweddaraf a ddefnyddir yn y sector cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.

Bwriad y rhaglen yw rhoi profiad dysgu pleserus, ysgogol a heriol i chi, gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar fecanig cerbydau modern.  

Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar wella eich hyder, cyflogadwyedd a rhagolygon entrepreneuriaeth.  

Hefyd, neilltuir tiwtor personol i chi a fydd yn eich cefnogi gyda'ch cynnydd ac yn darparu gofal bugeiliol i chi trwy gydol y rhaglen.

Cipolwg

  Llawn Amser

  1 flwyddyn

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen

Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol, sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol. 

Mae'r tîm yn cadw cysylltiadau cryf â'r sector cerbydau modur ac yn ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus i sicrhau bod addysgu a dysgu'r rhaglen yn gyfredol ac yn berthnasol. 

Yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd gennych gyfleoedd i ymgymryd â phrofiad gwaith, gan eich galluogi i ddatblygu, atgyfnerthu a chymhwyso'ch astudiaethau. Hefyd, cewch y cyfle i fynd ar ymweliadau addysgol sy'n anelu at gyfoethogi'ch astudiaethau, ysbrydoli dysgu a chodi dyheadau.

Cynnwys y Rhaglen

Mae'r unedau o fewn y rhaglen yn cynnwys y setiau pwnc gwybodaeth a sgiliau cerbydau modur canlynol:

  • Iechyd, diogelwch a chadw trefn dda 
  • Rolau swyddi cefnogi 
  • Deunyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur  
  • Diagnosio a chywiro diffygion trydanol ategol ar gerbydau
  • Diagnosio a chywiro diffygion injan cerbydau  
  • Diagnosio a chywiro diffygion system siasi 
  • Diagnosis a chywiro diffygion a thrawsyriant llinell yriant cerbydau

Yn ogystal â'r unedau uchod, byddwch hefyd yn gweithio tuag at y cymwysterau canlynol:

  • Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif 
  • Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu

Dilyniant a Chyflogaeth

Mae cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu dilyniant i raglen brentisiaeth.

Asesu'r Rhaglen

Asesir gwybodaeth bynciol a sgiliau trwy brofion amlddewis ar-lein, aseiniadau ysgrifenedig ac arsylwadau tasgau ymarferol.

Gofynion y Rhaglen

Gofynnwn fod gennych:

  • Diploma Lefel dau mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur. 
  • Cymwysterau TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg iaith neu Saesneg a mathemateg. 

Bydd ymgeiswyr yn cael cyfweliad i ganfod eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.