Mae Prentisiaeth Sylfaen yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn 'ennill cyflog wrth ddysgu'. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.
Mae’r rhaglen brentisiaeth ar gael mewn llwybrau cerbydau ysgafn a cherbydau trwm.
Cipolwg
Rhan Amser
Bydd cwblhau Prentisiaeth Sylfaen yn cymryd rhwng 12 a 24 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.
Campws Pibwrlwyd
Cynnwys y Rhaglen
Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y Brentisiaeth Sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
Diploma Lefel 2 mewn Cymhwysedd Cynnal ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif Lefel 1
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu Lefel 1
Sgiliau Hanfodol Cymru Llythrennedd Digidol Lefel 1
Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen hon yn llwyddiannus symud ymlaen i Brentisiaeth ar lefel tri os yn briodol.
Asesu'r Rhaglen
Gwaith cwrs, arholiadau ar-lein, arsylwadau yn y gwaith a thystiolaeth yn y gwaith.
Gofynion y Rhaglen
Byddai’r fframwaith hwn mewn Cynnal ac Atgyweirio Cerbydau yn addas ar gyfer rhywun sydd â diddordeb yn agweddau technegol cerbydau modur, sy’n hoffi gwaith ymarferol, sy’n dda gyda’i ddwylo, sy’n mwynhau cyswllt wyneb yn wyneb â chwsmeriaid ac sy’n mwynhau canfod a datrys problemau.
Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr sydd â diddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant adwerthu modurol mewn swyddi cynnal ac atgyweirio cerbydau ac sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y brentisiaeth hon yn eu meithrin.
Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar TGAU gradd D neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.