Cyrsiau Mynediad
Mae'r cymhwyster Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs sydd wedi'i deilwra ar gyfer oedolion sy’n dymuno dychwelyd i addysg. Efallai ei bod yn amser i newid gyrfa neu efallai na chawsoch chi gyfle i fynd i'r brifysgol oherwydd ymrwymiadau teuluol.
Os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn ac yn dymuno symud ymlaen i addysg uwch i astudio'r gwyddorau cymdeithasol neu'r dyniaethau, yna dyma'r cwrs i chi.
Dewch i gwrdd a'r tîm mynediad
“Rwyf wedi bod yn athro bioleg ysgol uwchradd yn y gorffennol ers 34 mlynedd, cyn dechrau yn fy rôl bresennol fel darlithydd bioleg rhan-amser. Mae Mynediad yn rhoi cyfle i unigolion nad oes ganddynt y cymwysterau angenrheidiol i gofrestru ar gwrs penodol ddilyn eu breuddwydion a dod yn aelodau gwerthfawr iawn o’r proffesiwn gofal.”
“Rwyf wedi bod yn addysgu ar ôl ennill fy ngradd mewn Mathemateg, cyn hynny roeddwn yn dysgu gweithgareddau awyr agored. Fel rhywun a aeth i’r Brifysgol fel myfyriwr aeddfed, rwy’n gyffrous am y cyfleoedd y gall y diploma mynediad eu hagor mewn addysg.”
“Rwyf wedi gweithio ym maes Addysg Bellach ers 17 mlynedd, yn addysgu dysgwyr Mynediad i Addysg Uwch a Safon Uwch, yn bennaf yn nisgyblaethau Seicoleg a Saesneg.
“Mae’r Diplomâu Mynediad i AU yn rhoi cyfle gwych i ddysgwyr sy’n oedolion gael profiad cadarnhaol o amgylchedd dysgu, lle mae eu brwdfrydedd, eu hangerdd a’u huchelgais yn cael eu hannog a’u cefnogi gan staff sydd â’r sgiliau i gefnogi oedolion sy’n dysgu. Mae’n hynod werth chweil gwylio dysgwyr unigol yn magu hyder a gallu, ac yn gwneud cyflawniadau mewn bywyd a fydd yn caniatáu iddynt wneud cynnydd yn bersonol ac yn broffesiynol, rhywbeth nad oeddent byth yn ei ddisgwyl mewn rhai achosion.”
“Cyn addysgu roeddwn yn gweithio i’r elusen ryngwladol Oxfam fel Cydlynydd Logisteg, trefnais symud pobl, dŵr a chyfarpar iechyd i argyfyngau ledled y byd. Erbyn hyn rwyf yn dysgu Daearyddiaeth Safon Uwch a Mynediad i'r Dyniaethau. Rwyf wedi dysgu Daearyddiaeth am y 24 mlynedd diwethaf.
“Rwyf wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau academaidd ymhellach. Hoffwn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymchwil, llythrennedd, cyfathrebu, cyflwyno a rhifedd. Helpu myfyrwyr i fagu eu hyder wrth baratoi i astudio yn y brifysgol yw pwrpas canolog fy rôl.”
“Ar ôl graddio gyda Gradd yn y Gyfraith, dechreuais yn y proffesiwn cyfreithiol a gweithio mewn cwmni lleol cyn mynd ati i newid gyrfa. Rwyf bellach wedi gweithio ym maes Addysg Bellach ers dros 25 mlynedd yn darlithio yn y Gyfraith ar Safon Uwch. Yn y cyfnod hwnnw, rwyf hefyd wedi addysgu ar gyrsiau Mynediad amrywiol ar ôl bod yn rolau'r Tiwtor Personol, Cydlynydd y Cwrs a nawr y Tiwtor Academaidd. Rwyf hefyd yn gweithio fel Safonwr Allanol Agored Cymru, y bwrdd arholi sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am gyrsiau Mynediad yng Nghymru.
“Does dim byd mwy boddhaol na gweld oedolion sy'n cyrraedd ar gwrs Mynediad, weithiau gydag ychydig neu ddim hyder, yn ymrwymo i astudio mewn ymgais i wella eu hunain a'u teuluoedd, a symud ymlaen i gam nesaf eu taith boed hynny i addysg uwch neu newid mewn gyrfa. Mae cyrsiau mynediad wir yn newid bywydau pobl.”
“Fe wnes i hyfforddi fel nyrs oedolion yn 2014. Rydw i wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau fel trawma, meddygaeth, y gwasanaeth carchardai a nyrsio cymunedol. Deuthum yn nyrs arbenigol yn 2016 ond penderfynais ddod yn ddarlithydd yn 2022. Rwy’n dal i ymarfer fel nyrs mewn gofal acíwt ac yn ei fwynhau’n fawr.”
“Rwy’n hynod frwd dros baratoi pobl ar gyfer y realiti a’r yrfa anhygoel a all fod mewn gofal iechyd. Rwy'n eiriolwr cryf dros ofal tosturiol ac urddasol. Rwy'n gobeithio trosglwyddo fy ngwybodaeth glinigol mewn gofal iechyd i ddysgu o brofiad.”
“Mae mynediad i mi yn broses symlach i ganiatáu’r rheiny sy’n wirioneddol frwd ac o ddifrif am ofal iechyd i dderbyn y wybodaeth a'r paratoad sy’n ofynnol i gyflawni rôl mewn gofal iechyd. Petawn wedi bod mewn sefyllfa i gwblhau mynediad cyn fy ngradd byddai wedi newid fy safbwynt
ar y gwasanaeth iechyd yn gyfan gwbl. Byddai wedi fy ngalluogi i feithrin sgiliau a gwybodaeth mewn maes yr oeddwn, wrth edrych yn ôl, heb fod yn gwbl barod ar ei gyfer.”
“Rwyf wedi bod yn dysgu yng Ngholeg Sir Gâr am yr 16 mlynedd diwethaf. Rwyf wedi bod yn addysgu yn bennaf ar gyrsiau Safon Uwch a Mynediad ond hefyd wedi cael y pleser o weithio gyda rhai staff gwych mewn cyfadrannau eraill. Er mai yn y Cyfryngau mae fy ngradd, rwyf hefyd wedi ymwneud yn helaeth â chyflwyno sgiliau llythrennedd a chyfathrebu ar sgiliau hanfodol a chymhwyster bagloriaeth Cymru trwy gydol fy ngyrfa addysgol.”
“Mae mynediad yn gyfle i ddechrau eto. Gallaf ddweud yn onest, ar gyfer yr holl gymwysterau yr wyf wedi'u haddysgu ar hyd fy ngyrfa, nad oes yr un sy'n rhoi mwy o foddhad i mi'n bersonol na'r diplomâu Mynediad. Mae aberth a phenderfyniad yn chwarae rhan fawr i ddysgwr Mynediad. Does dim byd yn fy llenwi â mwy o falchder na gweld ein dysgwyr yn dod i’r diwedd (o’r hyn sy’n gwrs dwys iawn) ac yn cyflawni eu cyrchnodau i symud ymlaen i brifysgol a gwneud y newid hwnnw mewn bywyd nid yn unig iddyn nhw eu hunain, ond i’w teulu hefyd.”