Cyflwynir y cymhwyster hwn mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant PCYDDS.
Mae’r cymwysterau CIPD yn seiliedig ar y Map Proffesiwn newydd, mae’r cymwysterau’n canolbwyntio ar y wybodaeth a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i greu gwerth a chael effaith yn y byd gwaith sy’n prysur newid. Maen nhw’n gosod y safon ryngwladol ar gyfer gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol.
Mae Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl yn gymhwyster proffesiynol. Mae’n gosod y meincnod ar gyfer y proffesiwn adnoddau dynol ac mae’n darparu sylfaen gref i roi’r hyder a’r galluoedd i weithwyr adnoddau dynol proffesiynol i arwain eu proses penderfynu, eu gweithredoedd a’u hymddygiadau.
Mae’r cymhwyster hwn yn ymestyn ac yn meithrin gwell lefel o ddealltwriaeth a chymhwysiad ac mae’n datblygu arbenigedd dysgwyr yn naturiol mewn ymarfer adnoddau dynol. Mae’n addas ar gyfer unigolion sy’n:
anelu at, neu’n cychwyn ar, yrfa ym maes rheolaeth pobl
gweithio mewn rôl ymarfer adnoddau dynol ac sy’n dymuno cyfrannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i helpu llunio gwerth sefydliadol
sy’n gweithio tuag at neu mewn rôl rheolwr pobl.
Cipolwg
Rhan Amser
Uchafswm o 22 mis. Ymgymerir â’r cymhwyster CIPD dros 18 mis.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu ar-lein
Nodweddion y Rhaglen
I ennill Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl, mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau cyfanswm o saith uned yn llwyddiannus.
Unedau Craidd
Perfformiad sefydliadol a diwylliant ar waith
Ymarfer ar sail tystiolaeth
Ymddygiadau proffesiynol a gwerthfawrogi pobl
Ynghyd â thair uned arbenigol
Rheoli perthnasoedd cyflogaeth
Rheoli talent a chynllunio gweithlu
Gwobrwyo am berfformiad a chyfraniad
Ynghyd ag un uned arbenigol ychwanegol
Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd cyflawni Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl yn llwyddiannus yn caniatáu symud ymlaen i’r Diploma Uwch Lefel 7 CIPD mewn Rheolaeth Pobl Strategol neu’r Diploma Lefel 7 CIPD mewn Dysgu a Datblygiad Strategol.
Mae’r Diploma Ôl-raddedig Lefel 7 a Meistr yn y Celfyddydau mewn Rheolaeth Pobl Strategol yn cael eu cynnig ym Mhrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.
Cynnwys y Rhaglen
Prif Gymwysterau
Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl
Sgiliau Hanfodol Cymru: Llythrennedd Digidol, Rhifedd a Chyfathrebu
Asesu'r Rhaglen
Ffocws asesu
Mae’r asesu ar gyfer Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl yn cael ei yrru gan gyflogwyr ac wedi’i anelu at senarios go iawn y gall dysgwyr ddod ar eu traws yn eu gyrfa yn y dyfodol.
Graddio’r Asesu
Nid yw’r cymhwyster hwn yn cael ei raddio. Bydd dysgwyr yn derbyn naill ai Pas neu Fethu. Rhaid bodloni’r holl feini prawf asesu er mwyn cyflawni Pas.
Cyflawni’r cymhwyster
Mae’r holl asesiadau ar gyfer y cymhwyster hwn yn cyfeirio at feini prawf, yn seiliedig ar gyflawni deilliannau dysgu penodol. I ennill Pas ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwr fod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer pob uned. Os na chyflawnir y cymhwyster cyfan, gellir rhoi credyd ar ffurf datganiad o gredyd uned annibynnol. Bydd datganiadau o gredyd uned annibynnol yn amodol ar gyfredolrwydd y cymhwyster presennol a gwiriadau sichrau ansawdd CIPD. Bydd penderfyniad y CIPD yn derfynol..
Gofynion y Rhaglen
Mae ymgeiswyr fel rheol yn 18 neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru.
Er nad oes gofynion mynediad ffurfiol, bydd cyfweliad yn ofynnol i sicrhau bod y cymhwyster hwn yn addas i’r dysgwr. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod dysgwyr yn gallu bodloni gofynion y deilliannau dysgu ac yn gallu cael mynediad i’r llythrennedd a’r rhifedd priodol sydd eu hangen i gwblhau’r Diploma Cysylltiol Lefel 5 CIPD mewn Rheolaeth Pobl. Mae angen cymhwyster llythrennedd digidol lefel 2 hefyd.
*Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio i gael mynediad i’r cwrs hwn*.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.