Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 Flwyddyn

  • Campws Pibwrlwyd

Rhaglen lefel 3 yw hon sydd yn rhoi cyfle i chi astudio celf a dylunio mewn ffyrdd archwiliol, ymchwiliol ac arbrofol.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt o bosibl unrhyw gymwysterau ffurfiol blaenorol, ond sydd mewn cyfweliad portffolio yn arddangos brwdfrydedd, ymrwymiad i gelf a dylunio, a bod ganddynt y potensial i gwblhau’r cwrs a gwneud cais am le ar gyrsiau gradd creadigol.

Yn draddodiadol, mae'r rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o grwpiau oedran ac anogir chi i ddatblygu eich sgiliau creadigol a thechnegol trwy ddarlithoedd, gweithdai a phrosiectau.

Nodweddion y Rhaglen

Byddwch chi’n gweithio'n agos gyda'ch cyflogwr ar gyfer profiad gwaith a hefyd tiwtoriaid cwrs yn y coleg.  

Byddwch yn mynychu’r coleg tua phedwar diwrnod yr wythnos ar gyfer sesiynau gwybodaeth greiddiol ac asesiadau ymarferol.  Mae'r cwrs yn seiliedig ar waith theori a gwaith ymarferol gydag amrywiaeth o anifeiliaid o famaliaid bach i geffylau.

Mae’r Dystysgrif Dechnegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid yn cynnwys:

  • Glanhau a chynnal llety anifeiliaid
  • Gwiriadau iechyd ar ystod o anifeiliaid
  • Deall ymddygiad anifeiliaid
  • Iechyd a diogelwch yn ymwneud â gwahanol feysydd o fewn diwydiannau ar dir
Cynnwys y Rhaglen

Mae modiwlau ar y cymhwyster hwn yn cynnwys y canlynol:  

  • Cynnal iechyd a lles anifeiliaid  
  • Bwydo a lletya anifeiliaid 
  • Ymddygiad a thrin anifeiliaid  
  • Gweithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid 
  • Iechyd a diogelwch ar gyfer y diwydiannau ar dir  
  • Egwyddorion bioleg anifeiliaid  
  • Nyrsio anifeiliaid
  • Cyflwyniad i ofalu am geffylau 

Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd y tu allan i ofal anifeiliaid. 

Cewch gyfle i ymgymryd ag ystod o sgiliau megis: 

  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu 
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif  
  • TGAU neu gymhwyster Agored mewn Saesneg a Mathemateg
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae dilyniant o'r cymhwyster hwn yn ofyniad mynediad ar gyfer y cymhwyster lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid.   Gall llwybrau cyflogaeth eraill ddeillio o'ch lleoliad profiad gwaith neu ddiwydiannau ar dir a chyfleoedd eraill. 

Dull asesu

Asesir unedau yn ymarferol yng nghanolfan gofal anifeiliaid y coleg, trwy ystod o arsylwadau ac mae angen profion ar-lein i ategu agwedd theori’r cwrs. Cynhelir yr asesiadau ymarferol ar amrywiaeth o anifeiliaid gan gynnwys mamaliaid bach, cŵn ac anifeiliaid mawr fel geifr a cheffylau. 

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Cymhwyster lefel un ar radd teilyngdod neu ragoriaeth, o leiaf 85% o ran presenoldeb a chyfweliad llwyddiannus.  

Fel arall, pedwar TGAU gyda graddau A*-D gan gynnwys naill ai mathemateg, Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf.

Rhaid bod y myfyriwr yn gallu cael 150 awr o leoliad gwaith gyda lleoliad cychwynnol wedi'i drefnu cyn yr wythnos gynefino yn y coleg - gellir trafod hyn yn y cyfweliad.   

Gofynnir yn ogystal i fyfyrwyr wneud prawf diagnostig ar eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ond mae cymorth dysgu ar gael. 

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Bydd angen i chi ddarparu eich cyfarpar diogelu personol eich hun ar gyfer y cwrs, a fydd yn cynnwys welingtons a dillad glaw, ar gyfer gweithgareddau ymarferol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.