Skip to main content


Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 2 Blynedd
  • Campws Pibwrlwyd

Mae’r cwrs rheolaeth anifeiliaid hwn yn rhaglen lefel tri lawn-amser sy’n cynnig ystod o sgiliau cyffrous a chyfleoedd dysgu i’r rheiny sy’n frwdfrydig ynghylch anifeiliaid.

Mae’r cwrs dwy flynedd o hyd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol gan gyflogwyr yn y diwydiannau rheolaeth anifeiliaid ac amgylcheddol sy’n galluogi dysgwyr i symud ymlaen i gyflogaeth neu gyrsiau lefel gradd yn y pynciau hyn neu bynciau cysylltiedig. 

Yn ogystal, mae angen 150 awr o brofiad gwaith o fewn y flwyddyn gyntaf o astudio er mwyn helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r diwydiant ac i fod o fudd i'r rheiny sy'n gwneud cais i’r brifysgol neu sy’n ymgeisio am waith. 

Ar ddiwedd blwyddyn un, bydd dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster 540 credyd diploma technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid. Ar ddiwedd yr ail flwyddyn bydd dysgwyr yn cwblhau’r diploma estynedig technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid (cymhwyster 1080 credyd).

Nodweddion y Rhaglen
  • Mae myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol gydag ystod o rywogaethau anifeiliaid anwes, ceffylau, da byw ac anifeiliaid egsotig ar y campws ac oddi arno. 
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau a gweithdai’n cynnwys cyflogwyr sy’n cael eu trefnu fel rhan o’r cwrs ac sy’n ymwneud yn benodol â modiwlau’r cwrs. 
  • Mae profiad gwaith (150 awr) yn orfodol ym mlwyddyn un y cwrs a’i nod yw datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd 
  • Mae digonedd o fynediad i wasanaethau cymorth dysgu
Cynnwys y Rhaglen

Yn ystod y ddwy flynedd byddwch yn astudio ystod o fodiwlau yn cynnwys:

  • Iechyd a diogelwch
  • Profiad gwaith yn y diwydiannau ar dir
  • Iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid
  • Bwydo a maetheg anifeiliaid
  • Ymddygiad a chyfathrebu anifeiliaid
  • Systemau biolegol anifeiliaid 
  • Lles a bridio anifeiliaid
  • Cadwraeth bywyd gwyllt ac ecoleg
  • Rheolaeth ac adsefydlu bywyd gwyllt
  • Iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid egsotig
  • Dylunio a rheolaeth siop anifeiliaid anwes
  • Hyfforddi anifeiliaid
  • Nyrsio anifeiliaid
  • Hwsmonaeth a lles anifeiliaid fferm
  • Gwasanaethau perthynol i anifeiliaid anwes
  • Adsefydlu anifeiliaid bach
  • Rheolaeth cyndai a chathdai  
  • Ymgymryd â sgiliau ystâd
  • Rheolaeth busnes yn y sector ar dir
  • Ymgymryd â phrosiect arbenigol yn y sector ar dir
Dilyniant a Chyflogaeth

Ar gwblhau ail flwyddyn y diploma estynedig technegol uwch lefel tri mewn rheolaeth anifeiliaid (1080) gallech symud ymlaen naill ai i gyflogaeth yn y sector ar dir neu i addysg uwch. 

Mae enghreifftiau o lwybrau gyrfaol yn cynnwys rheolaeth cyndai a chathdai, twtio cŵn, lles anifeiliaid, ecoleg a gwaith cadwraeth, cynorthwywyr nyrsio anifeiliaid, elusennau anifeiliaid, bridio anifeiliaid arbenigol, technegydd anifeiliaid, gwaith achub ac adsefydlu anifeiliaid. 

Mae enghreifftiau o opsiynau addysg uwch yn cynnwys BSc (anrh) mewn ymddygiad a lles anifeiliaid*, sŵoleg, nyrsio milfeddygol, cadwraeth, amaethyddiaeth*, bioleg anifeiliaid, ymddygiad a hyfforddiant anifeiliaid.  

* Ar gael yng Ngholeg Sir Gâr

Dull asesu

Mae asesu’r cwrs yn cynnwys arholiadau ffurfiol a osodir yn allanol, asesiadau ysgrifenedig (synoptig) ac asesiadau ymarferol gyda’r nod o brofi gwybodaeth a sgiliau ymarferol.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Gofynion Mynediad

Mae angen i bob ymgeisydd gael o leiaf pum TGAU graddau A* - C gan gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) ac yn ddelfrydol, bioleg. 

Neu byddwch wedi ennill gradd teilyngdod/rhagoriaeth mewn cymhwyster lefel dau perthnasol ynghyd â dau TGAU graddau A* i C mewn mathemateg a Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) Byddwch hefyd angen o leiaf 85% o ran presenoldeb a chyfweliad llwyddiannus.

Costau Ychwanegol

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg.  Fodd bynnag bydd disgwyl i chi hefyd brynu dillad penodol ar gyfer sesiynau ymarferol sef naill ai oferôls neu drowsus glaw a welingtons (yn ddelfrydol gyda blaenau dur). Ni ddylai cost y cyfarpar fod yn fwy na £100 a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.

Mae cyfle i chi brynu hwdis, topiau a chotiau gyda logo’r coleg ar ddechrau’r flwyddyn academaidd sydd yn opsiynol. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.