BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid
BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid
Cipolwg
-
Llawn Amser
-
3 blynedd yn llawn amser, 5 mlynedd yn rhan-amser ar gyfer pob lefel. Blwyddyn yn llawn amser neu dwy flynedd yn rhan-amser ar gyfer yr opsiwn atodol Lefel 6.
-
Campws Pibwrlwyd
Cod UCAS: C22
Cod y Cwrs Llawn Amser: 02XD
Cod y Cwrs Lefel 6 Atodol Llawn Amser: 02XX
Mae’r radd BSc (Anrh) mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn gwrs cyffrous iawn a hynod ddiddorol sydd wedi’i anelu at y rheiny sydd â diddordeb mewn anifeiliaid a’u lles a’u hymddygiad.
Caiff ei gynnig yn llawn amser neu’n rhan-amser ac mae ganddo ystod o fyfyrwyr sy’n amrywio o’r rheiny sydd wedi gweithio yn y diwydiant ac sydd eisiau symud ymlaen, i’r rheiny sy’n dychwelyd i addysg sydd eisiau dilyn eu brwdfrydedd neu newid eu gyrfaoedd.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnig atodiad lefel chwech i raddedigion sydd â gradd sylfaen neu HNC/HND mewn pynciau sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid.
Mae modiwlau astudio yn cynnwys ymddygiad, ffisioleg a lles anifeiliaid a sut y gall addasiadau esblygol ac ysgogiadau amgylcheddol effeithio ar oroesiad, ymddygiad ac iechyd.
Mae’r dosbarthiadau fel arfer yn fach o ran maint, gan gynnig manteision fel mwy o gyswllt un-i-un â darlithwyr.
Caiff astudiaeth o ymddygiad anifeiliaid ei chymhwyso i wella hyfforddiant, gofal a rheoli lles anifeiliaid, a hefyd caiff ei defnyddio mewn cadwraeth rhywogaethau brodorol a rhai byd-eang sydd mewn perygl.
Mae'r BSc (Anrh) mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn caniatáu i israddedigion ehangu eu gwybodaeth yn egwyddorion gwyddonol sylfaenol etholeg, ymddygiad a ffisioleg anifeiliaid, a chymhwyso'r wybodaeth hon i les a chadwraeth.
- Mae cyflwyniad y cwrs yn caniatáu llwybr i radd anrhydedd gyda hyblygrwydd darpariaeth lawn amser neu ran-amser.
- Caiff myfyrwyr sy’n dod i’r coleg fynediad i gyfleusterau helaeth ar y safle gan gynnwys canolfan anifeiliaid sy’n gartref i ystod eang o rywogaethau anifeiliaid, yn ogystal â deunyddiau dysgu ac ymchwil ar-lein. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i astudio'n annibynnol y tu allan i'r coleg ac i gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
- Bydd myfyrwyr yn astudio modiwlau craidd gorfodol yn ymwneud ag ymchwil annibynnol mewn maes pwnc sydd o ddiddordeb penodol iddynt hwy eu hunain, yn ychwanegol at fodiwlau sy’n ymwneud ag astudiaeth fanwl o ymddygiad, etholeg, ffisioleg, iechyd a lles anifeiliaid.
Mae’r Cwrs Celf a Dylunio: Mynediad i Addysg Uwch yn cwmpasu cyfres o unedau sy’n rhoi cyfanswm o 60 credyd sy’n cynnwys unedau craidd ac academaidd. Mae’r unedau hyn yn orfodol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Astudio Craidd gan gynnwys Cyfathrebu, Sgiliau Meddwl a Pharatoi Portffolio.
Bydd y cwrs yn eich helpu i ddarganfod y maes celf penodol rydych yn frwd ynglŷn ag ef a bydd yn eich cefnogi yn eich cais UCAS ar gyfer astudio gradd. Ar draws y flwyddyn, trwy raglen bwrpasol, byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a phortffolio gweledol er mwyn mynychu eich cyfweliadau gradd. Mae hi’n rhaglen hynod feithringar ac anogol sydd wedi datblygu hyder a sgiliau mewn llawer o bobl sydd wedi symud ymlaen i fwynhau profiad prifysgol.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn dewis mynd ymlaen yn uniongyrchol i raglenni gradd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, y byddwch chi’n gymwys i gael bwrsariaeth dilyniant mewnol o £1000 ar eu cyfer.
Mae'r asesu'n amrywiol ac yn addas ar gyfer gofynion modiwlau unigol ac yn cynnwys:
Traethodau; Cyflwyniadau; Adroddiadau Ysgrifenedig; Adroddiadau Astudiaethau Achos; Arholiadau; Ymchwil/arsylwadau Ymarferol Annibynnol; Portffolios Ymchwil; Cyflwyniadau Seminar.
Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n dangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o’r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr feddu ar bedwar TGAU gradd C ac uwch ac 16 o bwyntiau UCAS.
Bydd angen cymhwyster lefel tri gyda gradd pas neu uwch ar fyfyrwyr sy'n dechrau astudio ar lefel pedwar ac yn ddelfrydol byddant wedi gwneud rhywfaint o brofiad gwaith gydag anifeiliaid.
Ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno cofrestru’n syth ar lefel chwech ar gyfer yr opsiwn ‘atodol’, y gofynion mynediad yw gradd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid neu HND mewn astudiaethau anifeiliaid ar ôl cyflawni modiwlau addas ar gyfer gwneud cais am achredu ardystiad blaenorol.
Bydd myfyrwyr hŷn yn cael eu hystyried ar sail unigol gan y gellir rhoi ystyriaeth i gymwysterau a phrofiad sy'n berthnasol i’r diwydiant.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad ydynt wedi ennill HND neu radd sylfaen wrth wneud cais ymgymryd ag astudio ar lefel pedwar a phump cyn symud ymlaen i’r modiwlau lefel chwech BSc.
Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.
Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau.
Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion