Skip to main content

Cipolwg

  • Llawn Amser / Rhan Amser

  • 3 blynedd yn llawn amser, 5 mlynedd yn rhan-amser ar gyfer pob lefel. Blwyddyn yn llawn amser neu dwy flynedd yn rhan-amser ar gyfer yr opsiwn atodol Lefel 6.

  • Campws Pibwrlwyd

Cod UCAS: C22

Cod y Cwrs: 73B8

Mae’r radd sylfaen hon mewn gwyddor anifeiliaid yn cynnig ystod o gyfleoedd i symud ymlaen i’r rolau amrywiol sydd ar gael yn y sector anifeiliaid ac mae’n edrych ar wahanol agweddau ar astudio gan gynnwys lles anifeiliaid, anthroswoleg a bioleg forol.  

Caiff ei dilysu gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin ac mae’n cael ei chyflwyno yng nghanolfan anifeiliaid a cheffylau’r coleg ar ei Gampws ym Mhibwrlwyd lle mae ystod o gyfleusterau anifeiliaid wedi eu lleoli. 

Yn ychwanegol i elfennau craidd, mae'r rhaglen yn annog myfyrwyr i ymchwilio ac i drafod materion cyfoes sy’n ymwneud â rheolaeth anifeiliaid, moeseg, deddfwriaeth a newid amgylcheddol.

Mae rhaglen y cwrs yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau dadansoddol beirniadol ac mae’n defnyddio ystod eang o adnoddau deallusol, safbwyntiau damcaniaethol a disgyblaethau academaidd i hwyluso dealltwriaeth o wyddorau anifeiliaid ar draws ystod amrywiol o rywogaethau a meysydd astudio.

Fel rhan o’r cwrs, mae’n ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd ag interniaeth orfodol mewn busnes sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid/yr amgylchedd neu geffylau.

Nodweddion y Rhaglen

Mae gan y coleg gyfleusterau anifeiliaid rhagorol, yn cynnwys arenâu ceffylau dan do ac awyr agored, acwaria, ystafell rhywogaethau egsotig, ystafell mamaliaid bychan ac adardai sy’n gartref i ystod amrywiol o rywogaethau er mwyn bodloni gofynion Cwricwlwm y Radd Sylfaen.

Yn ogystal, mae gan fyfyrwyr fynediad i ystod o gyfleusterau bywyd gwyllt yn lleol: pwll bywyd gwyllt, safleoedd ar lan afon ac ar yr arfordir, perthi ffermdir a chynefinoedd coedwig er mwyn ymgymryd â’u hastudiaethau.

Mae israddedigion yn ymgymryd â modiwlau seiliedig ar waith ar lefelau pedwar a phump.

Mae myfyrwyr llawn amser yn astudio 120 credyd ar lefel 4 blwyddyn 1 a lefel 5 ar gyfer blwyddyn 2.

Bydd myfyrwyr rhan-amser yn ymgymryd ag 80 credyd y flwyddyn.

Cynnwys y Rhaglen

Gall myfyrwyr llawn amser ddewis o ddetholiad o fodiwlau ar Lefel 4 ar gyfer blwyddyn 1 a lefel 5 ar gyfer blwyddyn 2

Lefel  4

  • Dysgu seiliedig ar ddiwydiant mewn Gwyddor Anifeiliaid (gorfodol)
  • Maetheg Anifeiliaid (gorfodol)
  • Sgiliau Astudio (gorfodol)
  • Ymddygiad Anifeiliaid (gorfodol)
  • Hwsmonaeth a Rheoli Iechyd Anifeiliaid
  • Rheoli Pysgod Addurnol
  • Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid
  • Bioleg Forol

Lefel 5

  •  Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid Cymharol (gorfodol)
  • Dysgu Seiliedig ar Ddiwydiant mewn Gwyddor Anifeiliaid 2 (gorfodol)
  • Lles Anifeiliaid (gorfodol)
  • Bridio Anifeiliaid
  • Anthroswoleg
  • Bioleg Cadwraeth
Dilyniant a Chyflogaeth

Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau sy’n trosglwyddo’n rhwydd i fyd gwaith.     Gall llwybrau cyflogaeth gynnwys gofalwyr sŵau, cynorthwywyr nyrsio anifeiliaid, rheolwyr adwerthu anifeiliaid anwes, rheolwyr cadwraeth, technegwyr anifeiliaid, maethegydd anifeiliaid, bridwyr anifeiliaid, rheolaeth tyddyn, rheolaeth forol, gweithwyr achub anifeiliaid, gweithwyr ymchwil/ labordy, swyddogion lles DEFRA / llywodraeth leol, rheolwyr cyndai a chathdai, gweithwyr elusennol, addysgu.

Mae’r cwrs yn caniatáu dilyniant i gwrs BSc (Anrh) Ymddygiad a Lles Anifeiliaid (ar Lefel 6) y coleg a cheisiadau yn ychwanegol i raglenni anrhydedd eraill a gyflwynir mewn sefydliadau eraill.

Gofynion Mynediad

Caniateir mynediad i ymgeiswyr sy’n dangos y gallu academaidd a’r potensial i elwa o’r rhaglen.

Disgwylir i ddysgwyr feddu ar bedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd ag 16 o bwyntiau UCAS. Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hŷn nad ydynt efallai'n bodloni'r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain mewn cyfweliad, yn seiliedig ar eu profiad, asesiad cyfweliad a chymwysterau eraill y gallant fod wedi'u hennill sy'n berthnasol i'r diwydiant.

Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â'r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai'r rhain gynnwys y Diploma Technegol Uwch lefel 3 a’r Diploma Estynedig mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau, Diploma Estynedig lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau, y Fagloriaeth lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma Atodol a Diploma NPTC lefel 3 mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu Geffylau.

Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol, gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma.

Dull asesu

Caiff pob modiwl ei asesu’n unigol.  Defnyddia’r rhaglen ystod o ddulliau asesu fel bod yr holl fyfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddangos eu cryfderau ac er mwyn hybu eu sgiliau allweddol graddedig.  Mae’r dulliau asesu yn cynnwys arholiadau, adroddiadau ysgrifenedig, prosiectau ymchwil, asesiadau ymarferol, traethodau a chyflwyniadau.

Costau Ychwanegol

Does dim ffi ychwanegol, fodd bynnag, mae’n debygol y byddwch yn mynd i gostau ychwanegol ar gyfer cyfarpar personol ac ar gyfer teithiau’n gysylltiedig â’r cwrs.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith hwn yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth bwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credyd fesul lefel ar hyd eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.  Mae modiwlau’r Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a dangos tystiolaeth, o ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar yrfaoedd sy’n gysylltiedig â’ch maes pwnc chi. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gallu digidol, ymchwil a rheoli prosiect, yn ogystal â’r fath gymwyseddau personol â chyfathrebu, creadigrwydd, hunanfyfyrio, gwytnwch a datrys problemau. 

Dewch i wybod mwy am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.