Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi’r dysgwr i ennill gwaith llawn amser yn y diwydiant ceffylau. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentis.
Mae gan ddysgwyr ar y rhaglen hon yr opsiwn o ddau lwybr astudio. Mae llwybr un yn ymgorffori llwybr cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae’n seiliedig ar arholiadau. Mae’r ail lwybr yn cynnwys adeiladu portffolio o dystiolaeth drwy ddiploma seiliedig ar waith City & Guilds.
Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Yn y coleg mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau a sgiliau ymarferol arbenigol i baratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle. Dylai dysgwyr gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel dau o fewn 18 mis.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod)
Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser
Caiff y prentis ei asesu yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.
Mae diploma seiliedig ar waith City & Guilds yn llwybr amgen diarholiad.
Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain sydd wedi’i lleoli ar ei gampws ym Mhibwrlwyd. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.
Cynnwys y Rhaglen
Mae enghreifftiau o'r unedau astudio yn cynnwys:
Maeth ceffylau
Anatomeg a Ffisioleg
Rheoli Glaswelltir
Dylunio stablau
Arwain ceffyl dan oruchwyliaeth
Gwastrodi, plethu a gosod cyfarpar
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth sylfaen hon yn llwyddiannus i’r safon ofynnol, symud ymlaen i brentisiaeth ar lefel tri.
Asesu'r Rhaglen
Arholiadau Gwybodaeth a Gofal Ceffylau a Marchogaeth a Diogelwch ar y Ffordd BHS y gellir eu sefyll ar gampws Pibwrlwyd, Coleg Sir Gâr.
Bydd y dysgwr yn cael ei asesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg hefyd a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.
Gofynion y Rhaglen
Nid oes yna ofynion mynediad penodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen mewn Ceffylau; fodd bynnag, ceir cymwysterau neu brofiad a fydd yn helpu dysgwyr i ddeall y sector cyn cychwyn, er enghraifft:
Prawf C y Pony Club
Tystysgrif BTEC Lefel 1 mewn Gofalu am Geffylau
Diploma Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau Seiliedig ar Waith
BHS Cam 1 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
NVQ Lefel 1 mewn Gofal Ceffylau
Wedi gweithio yn y diwydiant o'r blaen, neu'n gweithio ynddo ar hyn o bryd.
Caiff y rhaglenni hyn eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'n ofynnol eich bod yn aelod o Gymdeithas Ceffylau Prydain.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.