Mae'r cwrs lefel tri nyrsio milfeddygol seiliedig ar waith hwn wedi’i gynllunio ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio mewn gweithle sy'n bractis hyfforddiant milfeddygol cymeradwy. Rhaid i bob practis gael eu cymeradwyo gan y coleg a rhaid i brentisiaid fod yn gweithio gyda nyrs filfeddygol gofrestredig neu filfeddyg (hyfforddwr clinigol) trwy gydol y rhaglen.
Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentis. Dylai dysgwyr gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel tri o fewn y raddfa amser gytunedig.
Cipolwg
Llawn Amser
Rhwng 24 a 48 mis yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cynorthwyo gan ymgynghorydd hyfforddi a thiwtoriaid a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
Caiff modiwlau eu hasesu drwy aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau a log sgiliau clinigol ymarferol. Rhaid i brentisiaid sefyll Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) ar ddiwedd eu cwrs i fod yn gymwys i ymuno â'r Gofrestr Nyrsys Milfeddygol.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys: -
Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Llwybr Anifeiliaid Bach)
Dilyniant a Chyflogaeth
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus mae myfyrwyr yn gymwys i ymuno â'r gofrestr Nyrsys milfeddygol. Mae cyfleoedd i symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch megis HNC/D, Gradd Sylfaen neu Radd (BSc).
Dilyniant o fewn swydd - Diploma Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) mewn Nyrsio Milfeddygol Uwch
Asesu'r Rhaglen
Gwaith cwrs, aseiniadau, arholiadau, Log Sgiliau Clinigol ac Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol.
Gofynion y Rhaglen
Pump TGAU gradd C neu uwch a rhaid iddynt gynnwys mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth
Gwaith llawn amser â thâl mewn practis hyfforddiant milfeddygol
Gellir ystyried cymwysterau eraill ar yr un lefel neu lefel uwch fesul achos.
Gweithio gyda nyrs filfeddygol gofrestredig neu filfeddyg i gynorthwyo i gwblhau'r log cynnydd nyrsio.
Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.