Mae prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ennill cyflog wrth ddysgu. Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd â pheth elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Anelir y rhaglen at ddysgwyr dros 16 oed. Bydd y prentis yn cael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth.
Y llwybr dysgu ar gyfer y rhaglen hon yw rheolaeth iard. Ar hyn o bryd, mae’r llwybr hwn yn ymgorffori llwybr cymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain ac mae’n seiliedig ar arholiadau.
Bydd y prentis yn dod i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Yn y coleg, mae dysgwyr yn ymdrin â gwybodaeth ddamcaniaethol greiddiol mewn gofal ceffylau a sgiliau ymarferol arbenigol i baratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle. Dylai dysgwyr gyflawni'r Fframwaith Prentisiaethau Uwch lefel pedwar o fewn 18 i 24 mis.
Cipolwg
Llawn Amser
18-24 mis
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Bydd yr holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi/aseswr a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd (bob 56 i 61 diwrnod).
Byddant yn cysylltu'n agos â'r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn y raddfa amser.
Caiff y prentis ei asesu yn y gweithle yn ôl yr angen (bob 56 i 61 diwrnod)
Mae arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel cymwysterau safon y diwydiant.
Bydd dysgwyr yn astudio yng Ngholeg Sir Gâr, canolfan arholi a gymeradwyir gan Gymdeithas Ceffylau Prydain. Mae cyfleusterau’n cynnwys ysgol dan do, menage awyr agored a llety mewn stablau i tua 14 o geffylau.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd yn rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth sylfaen hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:
Tystysgrif Lefel 4 BHSQ Rheolaeth Gofal Ceffylau
Tystysgrif Lefel 4 BHSQ mewn Egwyddorion Gofal a Rheolaeth Ceffylau
Y Sgiliau Hanfodol y mae rhaid eu cyflawni er mwyn cwblhau’n llwyddiannus yw:-
Sgiliau Hanfodol Cymru Cymhwyso Rhif (Lefel 2)
Sgiliau Hanfodol Cymru Cyfathrebu (Lefel 2)
Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol (Lefel 2)
Mewn rhai amgylchiadau gellir defnyddio cymwysterau procsi a gyflawnwyd yn flaenorol ee TGAU mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch.
Mae enghreifftiau o'r unedau astudio yn cynnwys:
Gosod a Gwerthuso tac arbenigol
Ffisioleg Ceffylau
Rheoli busnes ceffylau
Maeth Ceffylau
Asesu iechyd a chydffurfiad ceffylau
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae gan ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r brentisiaeth uwch lefel pedwar y cyfle i symud ymlaen yn y diwydiant neu i gyrsiau addysg uwch fel graddau sylfaen neu raddau mewn rheolaeth ceffylau, gwyddor ceffylau, astudiaethau ceffylau, hyfforddiant ac ymddygiad ceffylau.
Asesu'r Rhaglen
Arholiad BHSQ Cam 3 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau y gellir ei sefyll ym Mhibwrlwyd, Coleg Sir Gâr, neu bortffolio o dystiolaeth diploma seiliedig ar waith lefel tri City & Guilds, wedi'i asesu gan staff cymwys y coleg yn y gweithle ac yn y coleg hefyd.Bydd dysgwyr ar y naill lwybr neu’r llall yn cael eu hasesu'n barhaus yn y gweithle ac yn y coleg hefyd a fydd yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith ymarferol, tystiolaeth yn y gwaith ac arsylwadau.
Gofynion y Rhaglen
BHS Cam 3 Gwybodaeth a Gofal Ceffylau
BHSQ Lefel 3 Gwastrawd
Prawf AH y Pony Club
Ariennir y rhaglenni hyn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae angen Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain.
Costau Ychwanegol
Nid oes ffi ychwanegol tra’n astudio ar y cwrs heblaw bydd gofyn i'r dysgwr brynu Aelodaeth Aur Cymdeithas Ceffylau Prydain cyn cymryd rhan mewn unrhyw arholiadau BHS. Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu a’ch cyfarpar personol eich hun. Mae’n bosibl y gallwch fynd i gostau hefyd os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.