Skip to main content

Prentisiaeth (Sylfaen) Cynorthwyydd Nyrsio Milfeddygol

Cipolwg

  • Rhan-amser

  • 18 Mis

  • Campws Pibwrlwyd

Dyma’r cymhwyster delfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa fel cynorthwyydd gofal milfeddygol, neu fynd i addysg bellach.   Datblygwyd y cymhwyster hwn ar gyfer y rheiny sy’n rhoi gofal sylfaenol i anifeiliaid dan gyfarwyddyd a/neu oruchwyliaeth milfeddyg neu nyrs filfeddygol.   At ddiben y cymhwyster hwn, mae darparwyr gwasanaethau gofal milfeddygol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu, i bractis milfeddygol barn gyntaf, practis milfeddygol ail farn neu atgyfeirio, ysbytai milfeddygol, adrannau milfeddygol mewn sefydliadau lles anifeiliaid ac ysgolion milfeddygol.

Nodweddion y Rhaglen

Unedau astudio:

  • Egwyddorion ac arferion trafod a gofalu am anifeiliaid yn yr amgylchedd milfeddygol
  • Egwyddorion ac arferion cynorthwyo gyda gofal yn yr amgylchedd milfeddygol
  • Egwyddorion ac arferion dyletswyddau gweinyddol yn yr amgylchedd gofal milfeddygol
Cynnwys y Rhaglen

Bydd rhaid i ddysgwyr sy'n dilyn y brentisiaeth hon gyflawni fframwaith o gymwysterau a fydd yn cynnwys:

  • Diploma Lefel 2 CQ i Gynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol
  • Sgiliau hanfodol ar lefel 1 (Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a llythrennedd digidol)
Dilyniant a Chyflogaeth

Yn dilyn cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus mae gan fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau i roi gofal i anifeiliaid yn lleoliad y practis milfeddygol dan gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth Milfeddyg neu Nyrs Filfeddygol Gofrestredig.
Ar gwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2, mae’n bosibl y gall Prentisiaid symud ymlaen i fod yn nyrs filfeddygol dan hyfforddiant, yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru a osodir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon ar gyfer Nyrsys Milfeddygol dan Hyfforddiant.
Gall cyfleoedd ar gyfer dilyniant gynnwys:

  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach
  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Anifeiliaid Anwes)
  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Ceffylau
  • Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol (Ceffylau)
  • Prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol Prentisiaeth mewn Gofal Anifeiliaid
  • Diploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid.

Dull asesu


Caiff modiwlau eu hasesu trwy aseiniadau. Mae pob aseiniad yn cynnwys:

  • Cyfres o restrau gwirio marcio ymarferol ac astudiaethau achos sy'n asesu elfennau cymhwysedd y cymhwyster a dylid eu cwblhau a'u cadw mewn portffolio o dystiolaeth
  • Nifer o dasgau ysgrifenedig sy’n asesu elfennau gwybodaeth y cymhwyster megis adroddiadau, dalennau, taflenni, astudiaethau achos, profion ysgrifenedig, posteri, neu gyflwyniadau.

Gofynion Mynediad

Gwaith â thâl mewn practis milfeddygol am 2 ddiwrnod yr wythnos o leiaf.Rhaid i’r practis milfeddygol ddarparu mentor/goruchwyliwr yn y gweithle i’r myfyriwr, naill ai Nyrs Filfeddygol neu Filfeddyg cymwysedig neu rywun sydd â phrofiad sylweddol a chyfoes o fewn milfeddygaeth.  

Does dim gofynion mynediad academaidd ffurfiol i ddysgwyr sy’n ymgymryd â’r rhaglen hon.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i fyfyrwyr ddod o hyd i, a phrynu, eu cyfarpar diogelu personol (PPE) eu hunain.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau ychwanegol os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.