Skip to main content

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cipolwg

  • Rhan-Amser

  • 1 flwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  • Campws Pibwrlwyd

Os ydych yn rheolwr iau neu'n dymuno bod yn un, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu a deall eich rôl a'ch helpu i gymhwyso egwyddorion a dulliau o fewn eich rôl a datblygu fel arweinydd.

Bydd yn darparu egwyddorion sylfaenol rheolaeth i chi ac mae’n sail dda ar gyfer unigolion sy’n bwriadu symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa.

Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais. 

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gael a defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol, canfod datrysiadau i broblemau, rheoli arloesedd a newid mewn sefydliadau a hefyd byddwch yn dysgu am yr hyn sydd ei angen i arwain ac ysgogi tîm. 

Mae’r rhaglen yn darparu sgiliau i chi mewn datrys problemau, meddwl yn feirniadol, arweinyddiaeth a sgiliau cyflogadwyedd allweddol.

Cynnwys y Rhaglen

Mae yna 6 uned i’w cwblhau:

  •  Deall Arweinyddiaeth
  •  Datrys problemau a gwneud penderfyniadau
  •  Sut i ysgogi er mwyn gwella perfformiad
  •  Deall y Rôl Rheolaeth er mwyn gwella Perfformiad Rheolaeth
  •  Rheoli Risg yn y Gweithle
  •  Cynllunio Newid yn y Gweithle

Gellir addasu neu deilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.

Dilyniant a Chyflogaeth

Yr hyn byddwch chi’n ei gyflawni: 

  • Byddwch yn cael sylfaen gadarn yn yr hyn sydd ei angen i drefnu, rheoli ac ysgogi eich timau   
  • Ennill hyder yn eich gallu i berfformio yn eich rôl 
  • Dysgu offer a thechnegau i ddatblygu eich hun fel arweinydd 
  • Ennill cymhwyster cenedlaethol i gydnabod eich galluoedd a’ch profiad

Buddion i’r cyflogwr:

  • Byddant yn cael rheolwyr hyderus ac effeithiol 
  • Profi gwell cyfathrebu, mwy o gynhyrchiant a thimau mwy brwdfrydig 
  • Gweithio o fewn cymhwyster hynod hyblyg i gau bylchau sgiliau a datblygu tîm rheoli rheng flaen cytbwys
Dull asesu

Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.

Costau Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.