Cymhwyster lefel pedwar yw hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu rheolwyr canol a rheolwyr llinell gyntaf uchelgeisiol.
Byddwch yn datblygu sgiliau craidd mewn rheolaeth ganol ac yna’n cael eich cynorthwyo i ddyfnhau eich dealltwriaeth o sut i fod yn arweinwyr effeithiol yn eich sefydliadau. Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.
Cipolwg
Rhan Amser
2 flynedd (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau craidd mewn rheolaeth ganol. Dysgwch am sut i gyfathrebu gweledigaeth y sefydliad yn effeithiol i’ch tîm a sut i reoli a datblygu perthnasoedd â budd-ddeiliaid allweddol. Datblygwch eich sgiliau arwain drwy ysgogi a datblygu eich tîm hyd eithaf eu gallu. Mae’r rhaglen yn rhoi sgiliau i unigolion mewn datrys problemau, meddwl yn feirniadol, arweinyddiaeth a sgiliau cyflogadwyedd allweddol.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r rhaglen yn cynnwys naw uned:
Deall y rôl rheolaeth
Deall rheoli straen yn y gweithle
Datrys problemau a gwneud penderfyniadau
Deall recriwtio a dethol staff newydd yn y gweithle
Deall a datblygu perthnasoedd yn y gweithle
Ysgogi pobl yn y gweithle
Rheoli a gweithredu newid yn y gweithle
Rheoli datblygiad personol
Deall y rôl rheolaeth i wella perfformiad rheolaeth
Gellir addasu/teilwra unedau’r rhaglen i weddu i anghenion unigolion a chyflogwyr.
Dilyniant a Chyflogaeth
Y canlyniadau i chi:
Ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
Cael rheolaeth ar eich datblygiad personol
Deall newid yn y gweithle
Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
Yr effaith ar gyfer eich cyflogwr:
Rheolwyr canol brwdfrydig sydd â gallu profedig i berfformio
Rheolwyr sy’n gallu asesu a gwella eu datblygiad
Gwell cyfathrebu a chydweithio mewn timau
Asesu'r Rhaglen
Mae’r holl unedau ar sail aseiniad.
Costau Ychwanegol
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.