Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sydd am ennill gwybodaeth, sgiliau a hyder i hyfforddi neu fentora pobl yn effeithiol o fewn cyd-destun sefydliadol. Mae hefyd yn gymhwyster delfrydol ar gyfer y rheiny sydd am gychwyn gyrfa mewn hyfforddi neu fentora. Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg. Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais.
Cipolwg
Rhan Amser
Blwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Gwybod beth sydd eisiau i fod yn hyfforddwr a mentor effeithiol
Deall rôl a chyfrifoldebau hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol
Dysgu sut i reoli prosesau hyfforddi a mentora gan ddefnyddio modelau cydnabyddedig
Rhoi eich sgiliau newydd ar waith trwy gyflawni sesiynau hyfforddi neu fentora dan oruchwyliaeth
Dadansoddi eich perfformiad hyfforddi neu fentora er mwyn gwella eich gallu eich hun
Cynnwys y Rhaglen
Mae yna 4 uned i’w cwblhau fydd yn canolbwyntio ar arfer da mewn hyfforddi a mentora o fewn cyd-destun sefydliadol. Yn ogystal byddwch yn ymgymryd â hyfforddi o fewn eich gweithle ac yn myfyrio ar ddatblygiad eich sgiliau dros y flwyddyn.
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill megis:
Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Asesu'r Rhaglen
2 aseiniad
Portffolio
Dyddiadur Adfyfyriol
Gofynion Mynediad
Gofynnir i chi fentora neu hyfforddi unigolyn yn y gweithle dan oruchwyliaeth er mwyn cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus.
Costau Ychwanegol
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.