Skip to main content

Tystysgrif Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Disgrifiad o'r Rhaglen


Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer rheolwyr canol newydd ac uchelgeisiol. 

Mae’r cymhwyster yn helpu dysgwyr i wir fynd i’r afael â’u rôl, i ennill gwybodaeth fusnes gynhwysfawr, a datblygu'r sgiliau technegol sydd eu hangen arnynt i arwain yn effeithiol ar y lefel hon.  Mae gan fyfyrwyr fynediad i ddeunyddiau dysgu ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy Google Classrooms a llyfrgell ddigidol ategol ar-lein y coleg.  Yn ychwanegol at hyn, mae ganddynt gymorth tiwtor neilltuedig a thiwtorialau un i un penodedig i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein. 

Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant, asesu a sesiynau tiwtorial - pris ar gael ar gais. 

Cipolwg

  Rhan Amser

  Blwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Sesiynau addysgu misol gyda sesiynau tiwtorial unigol i drafod cynnydd.

Cynnwys y Rhaglen


Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar reoli newid a gweithredu prosiectau o fewn y sefydliad. Dysgwch am bwysigrwydd rheoli newid yn effeithiol a mynd â’ch tîm gyda chi.

Dilyniant a Chyflogaeth


Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys: 

  • Diploma Lefel 4 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Asesu'r Rhaglen


3 aseiniad i'w cwblhau (tua 3000 o eiriau yr un).

Gofynion Mynediad


  • mewn swydd reoli neu arwain tîm
  • profiad o astudio diweddar ar Lefel 3

Costau Ychwanegol


Cost y cwrs yw band ffi:  £190

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.