Pwrpas y cwrs hwn yw gwella'r sgiliau a ddatblygwyd o’r Diploma AAT mewn Cyfrifyddu, gan alluogi myfyrwyr i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd yn eu cyflogaeth gyfredol neu newydd. Trwy astudio ar gyfer y cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn ennill sgiliau cyfrifeg a chyllid proffesiynol a fydd yn ddefnyddiol trwy gydol eu gyrfa, gan gynnwys:
Drafftio datganiadau ariannol i gwmnïau cyfyngedig
Gwybodaeth a sgiliau mewn technegau cyfrifon rheoli cymhleth
Y gallu i ddadansoddi systemau cyfrifyddu a'u rheolaethau cysylltiedig
Gwybodaeth a sgiliau mewn pynciau cyfrifeg a chyllid arbenigol.
Cipolwg
Rhan Amser
12 mis
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r cwrs yn cynnwys pynciau a thasgau cyfrifyddu a chyllid lefel uchel. Bydd myfyrwyr yn edrych ar amrywiaeth eang o sgiliau rheoli ariannol a chymwysiadau ac yn dod yn gyfforddus â nhw, ac yn ennill cymwyseddau mewn drafftio datganiadau ariannol i gwmnïau cyfyngedig, argymell strategaeth systemau cyfrifyddu, a llunio a chyflwyno adroddiadau cyfrifon rheoli cymhleth. Hefyd, bydd myfyrwyr yn dysgu am feysydd arbenigol megis treth, archwilio, rheoli credyd a debyd, a rheoli arian a chyllid.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol sy'n talu am hyfforddiant a sefyll arholiad cychwynnol - pris ar gael ar gais.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae'r asesiadau ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser. Mae pob un yn cynnwys ystod o fathau o gwestiynau a fformatau, er enghraifft cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr. Bydd pob asesiad yn gofyn am rai atebion ysgrifenedig.
Asesu'r Rhaglen
Mae'r asesiadau yn ymarferol ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser. Mae pob un yn cynnwys ystod o fathau o gwestiynau a fformatau, er enghraifft cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau yn y gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr. Bydd pob asesiad yn gofyn am rai atebion ysgrifenedig.
Gofynion y Rhaglen
Bydd y cymhwyster Diploma AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yn addas i’r rheiny sydd:
Wedi cwblhau Diploma AAT mewn Cyfrifyddu ac a hoffai barhau i ddatblygu eu sgiliau cyfrifyddu
Eisoes yn gweithio mewn cyllid ac a hoffai gydnabyddiaeth ffurfiol o'u sgiliau
Hoffai fynd ymlaen i ddod yn aelod llawn AAT a/neu astudio ar gyfer statws cyfrifydd siartredig
Hoffai ddechrau eu busnes eu hunain trwy'r cynllun aelod trwyddedig AAT mewn practis (MIP).
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Diploma AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol. Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau o lwyddiant, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a mathemateg. Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol eraill, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, bydd y rhain o fudd enfawr. Mewn amgylchiadau penodol efallai byddant yn caniatáu i fyfyrwyr hawlio eithriadau.
Costau Ychwanegol
Codir tâl ychwanegol am ailsefyll unrhyw arholiadau.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.