Cipolwg
-
Rhan-amser - Dydd Mawrth 09:15-16:30
-
1 Flwyddyn - Dyddiad cychwyn 05/09/2023
-
Campws Pibwrlwyd ac ar-lein
Mae’r fframwaith hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid. Pwrpas y cwrs AAT hwn yw darparu’r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol i fyfyrwyr sydd eu hangen ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth mewn rôl gyfrifyddu neu gyllid, neu i ddatblygu eu hastudiaethau yn y maes hwn.
Mae prentisiaeth ganolradd yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ‘ennill cyflog wrth ddysgu’. Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Bydd y prentis yn gyflogedig a bydd yn derbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy yn ôl disgresiwn y cyflogwr). Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r fframwaith prentisiaeth lefel tri o fewn y raddfa amser gytunedig.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i fyfyrwyr sy’n oedolion, y rheiny sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael seibiant, y rheiny sy’n newid gyrfa a phobl ifanc 16 - 19 oed sydd am ddatblygu eu gwybodaeth yn y maes galwedigaethol hwn.
Pwrpas y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda er mwyn symud ymlaen i yrfa mewn cyfrifeg broffesiynol, cyllid neu fusnes neu i addysg bellach.
Bydd myfyrwyr yn dysgu ac yn datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prosesau ariannol, gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifyddu, cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol. Byddant hefyd yn deall yr amgylchedd busnes, materion busnes sy’n ymwneud â’r gyflogres a threth ar werth (TAW), technegau cyfrifyddu rheoli, egwyddorion moesegol ac ystyriaethau cynaladwyedd ar gyfer cyfrifwyr.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol sy'n cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb ac ar-lein mewn llif dysgu di-dor a chyflenwol.
Bydd pob myfyriwr yn cael ei gefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd ac a fydd yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn graddfeydd amser.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r Corff Proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod o dasgau cyfrifyddu cymhleth, yn cynnwys cadw cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni treth. Mae’n cynnwys pedair uned orfodol:
- Ymwybyddiaeth Fusnes
- Cyfrifyddu Terfynol: Paratoi Datganiadau Ariannol
- Technegau Cyfrifyddu Rheoli
- Prosesau Treth ar gyfer Busnesau
Caiff pob un o’r pedair uned eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 2 wedi’u cynnwys yn y fframwaith oni bai bod eithriadau’n berthnasol.
Bydd cymryd rhan mewn adolygiadau gweithle gydag ymgynghorydd hyfforddi a’r cyflogwr yn digwydd yn rheolaidd.
Bydd y sgiliau cyfrifeg a ddatblygir trwy astudio'r fframwaith hwn yn galluogi myfyriwr i chwilio am waith yn hyderus a/neu symud ymlaen i'r lefel ddysgu nesaf neu gallant arwain at gyflogaeth fel:
- Cynorthwyydd cyfrifon
- Goruchwyliwr cyfrifon taladwy a threuliau
- Cyfrifydd cynorthwyol
- Archwiliwr dan hyfforddiant
- Rheolwr credyd
- Cynorthwyydd cyllid
- Swyddog cyllid
- Goruchwyliwr cyflogres
- Uwch Geidwad cyfrifon
- Cynorthwyydd treth.
Mae cwblhau’r fframwaith hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gofrestru fel ceidwad cyfrifon cymwysedig, neu symud ymlaen i'r cymhwyster Diploma mewn Cyfrifyddu Proffesiynol (lefel 4).
Rydym wedi partneru gyda Mindful Education i gyflwyno’r cwrs hwn trwy ein model Ar-lein ac Ar y Campws hyblyg.
Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo arobryn, sydd ar gael ar alw, ac y gellir eu gweld ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur - gan gynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer astudio. Mae’r gwersi yn para tua 45 munud ac mae animeiddiadau a graffeg symudol yn dod gyda nhw er mwyn dod â chysyniadau’n fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i wella’r profiad dysgu ymhellach. Dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 6-8 awr yn astudio’n annibynnol ar-lein bob wythnos.
Ar y campws, byddwch yn elwa ar ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg a fydd hefyd yn adolygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd wrth law i roi arweiniad ar gynnydd ac asesu. Bydd trafodaeth gyson gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol tra hefyd yn darparu'r gefnogaeth ychwanegol a'r cymhelliant a ddaw yn sgil bod yn rhan o grŵp.
Mae'r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.
Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, ymatebion ysgrifenedig estynedig, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Diploma AAT mewn Cyfrifyddu. Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg. Mae cyfrifwyr yn gweithio wrth wraidd busnes a disgwylir iddynt allu cyfathrebu gwybodaeth yn glir ac yn briodol i gynulleidfa benodol. Mae AAT yn argymell bod myfyrwyr yn defnyddio gwiriad sgiliau AAT trwy aatskillcheck.org i sicrhau eu bod yn barod i gychwyn ar gymhwyster penodol.
Mae mynediad i’r brentisiaeth yn dibynnu ar gyflogaeth addas ac yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.
Mae’n bosibl y gall myfyrwyr sydd ag unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol, hawlio eithriadau.
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr dalu am arholiadau os bydd angen ail-sefyll nifer o weithiau.
Mae angen i fyfyrwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a gwerslyfrau (os oes angen). Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.