Prentisiaeth - AAT Cyfrifyddu Lefel 4 - Diploma mewn Cyfrifyddu Proffesiynol

Cipolwg
-
Rhan-Amser
-
Gall gymryd hyd at 16 mis
-
Campws Pibwrlwyd
Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys pynciau a thasgau cyfrifyddu a chyllid lefel uchel. Fel rhan o’r brentisiaeth uwch bydd myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau a chymwysiadau rheolaeth ariannol, gan eu galluogi i wneud y mwyaf o gyfleoedd yn eu cyflogaeth bresennol neu newydd. Mae’r sgiliau a enillir wrth astudio’r cymhwyster hwn yn cynnwys:
- Drafftio datganiadau ariannol i gwmnïau cyfyngedig
- Gwybodaeth a sgiliau mewn technegau cyfrifyddu rheoli cymhleth
- Y gallu i ddadansoddi systemau cyfrifyddu a'u rheolaethau cysylltiedig
Mae’r brentisiaeth uwch yn rhaglen dysgu seiliedig ar waith lle mae'r dysgwr yn ‘ennill cyflog wrth ddysgu’. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd ag elfen o gyfrifoldeb yn rôl eu swydd. Bydd y prentis yn derbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid (gallai hyn fod yn fwy yn ôl disgresiwn y cyflogwr) a bydd yn cael ei ryddhau/ei rhyddau am ddydd i fynychu’r coleg a dylai gyflawni’r fframwaith prentisiaeth lefel pedwar o fewn y raddfa amser gytunedig.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i’r rheiny sydd: wedi cwblhau’r Diploma lefel 3; angen cydnabyddiaeth ffurfiol o’u sgiliau; yn dymuno dod yn aelodau llawn o’r AAT; sydd yn dymuno dechrau eu busnes eu hunain.
Mae’r cwrs yn cynnwys pynciau a thasgau cyfrifyddu a chyllid lefel uchel. Bydd myfyrwyr yn edrych ar amrywiaeth eang o sgiliau a chymwysiadau rheolaeth ariannol ac yn dod yn gyfforddus â nhw, ac yn ennill cymwyseddau mewn drafftio datganiadau ariannol i gwmnïau cyfyngedig, argymell strategaeth systemau cyfrifyddu, a llunio a chyflwyno adroddiadau cyfrifyddu rheoli cymhleth. Hefyd, bydd myfyrwyr yn dysgu am feysydd arbenigol megis treth, archwilio, rheoli credyd a debyd, a rheoli arian a chyllid.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan ymgynghorydd hyfforddi a fydd yn monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau yn rheolaidd ac a fydd yn cysylltu’n agos â’r cyflogwr i sicrhau bod cymwysterau’n cael eu cyflawni o fewn graddfeydd amser.
Dull Astudio
Bydd staff gwybodus a chefnogol yn cynnal sesiynau wythnosol ar y campws. Bydd trafodaeth gyson gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol tra hefyd yn darparu'r gefnogaeth ychwanegol a'r cymhelliant a ddaw yn sgil bod yn rhan o grŵp.
Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r corff proffesiynol. Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.
Mae’r Diploma AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol yn cwmpasu’r unedau canlynol:
- Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol
- Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol
- Systemau a Rheolaethau Cyfrifyddu Mewnol
- Treth Bersonol
- Archwilio a Sicrwydd
Caiff y pum uned hyn eu hasesu’n unigol mewn asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar Lefel 2 wedi’u cynnwys yn y fframwaith oni bai bod eithriadau’n berthnasol.
Bydd cymryd rhan mewn adolygiadau gweithle gydag ymgynghorydd hyfforddi a’r cyflogwr yn digwydd yn rheolaidd.
Ar ôl cymhwyso ac wedi bodloni meini prawf yr AAT, gall myfyrwyr wneud cais am aelodaeth lawn yr AAT, a fydd yn caniatáu iddynt ddefnyddio'r llythrennau dynodol MAAT ar ôl eu henw.
Gall y cymhwyster arwain at amrywiaeth o swyddi cyfrifeg a chyllid sy’n talu’n dda, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:
- Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol
- Archwilydd Cynorthwyol
- Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol
- Rheolwr Cyflogres
- Uwch Geidwad Cyfrifon
- Uwch Swyddog Ariannol
- Goruchwyliwr Cyfrifon Taladwy a Threuliau
- Cyfrifydd Cynorthwyol Ariannol
- Cyfrifydd Cost
- Cyfrifydd Asedau Sefydlog
- Goruchwyliwr Treth
- Cyfrifydd TAW.
Mae cwblhau’r fframwaith hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr symud ymlaen i gymwysterau cyfrifyddu proffesiynol pellach (mae’n bosib y bydd eithriadau) neu radd.
Mae'r asesiadau yn y cymhwyster hwn ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.
Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, ymatebion ysgrifenedig estynedig, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau’r gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.
Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Diploma AAT mewn Cyfrifyddu Proffesiynol. Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg. Mae cyfrifwyr yn gweithio wrth wraidd busnes a disgwylir iddynt allu cyfathrebu gwybodaeth yn glir ac yn briodol i gynulleidfa benodol. Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr hefyd fod wedi cwblhau cymwysterau AAT lefel 2 a lefel 3. Mae AAT yn argymell bod myfyrwyr yn defnyddio gwiriad sgiliau AAT trwy aatskillcheck.org i sicrhau eu bod yn barod i gychwyn ar gymhwyster penodol.
Mae mynediad i’r brentisiaeth yn dibynnu ar gyflogaeth addas ac yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.
Mae’n bosibl y gall myfyrwyr sydd ag unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol, hawlio eithriadau.
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr dalu am arholiadau os bydd angen ail-sefyll nifer o weithiau.
Mae angen i fyfyrwyr ddarparu eu deunydd ysgrifennu eu hunain a gwerslyfrau (os oes angen). Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.