Skip to main content

Tystysgrif Lefel 2 Terminoleg Feddygol A Chlywdeipio

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen neu symud i mewn i amgylchedd Gweinyddiaeth Feddygol lle mae angen deall y defnydd mynych o derminoleg feddygol.  Bydd y cymhwyster yn paratoi’r dysgwr i weithio ym maes gweinyddiaeth feddygol gan ddysgu sgiliau mewn terminoleg feddygol a chlywdeipio.

Cipolwg

  Rhan Amser

  17 Wythnos

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen

  • darparu cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o derminoleg feddygol a chlywdeipio
  • cyfuniad o gyflwyniad ar y safle ac ar-lein
  • cyflwynir gan ddarlithwyr cymwysedig
  • darparu llwybr dilyniant i gyflogaeth neu gymwysterau ychwanegol
  • datblygiad proffesiynol parhaus

Cynnwys y Rhaglen

Mae Terminoleg Feddygol yn defnyddio dull strwythurol, gan ganolbwyntio ar sut y caiff termau meddygol eu llunio o fonion, rhagddodiaid ac ôl-ddodiaid, a sut i adnabod termau o ddiffiniadau penodol. 

Mae'n cwmpasu:

  • Terminoleg
  • Talfyriadau sy’n ymwneud â systemau’r corff
  • Arbenigeddau Meddygol
  • Ffarmacoleg

Mae Clywdeipio yn galluogi'r dysgwr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio cyfarpar a meddalwedd clywdeipio i gynhyrchu ystod o ddogfennau meddygol arferol a phroffesiynol.

Mae'n cwmpasu:

  • trawsgrifio dogfennau arferol sy'n cynnwys terminoleg feddygol
  • cymhwyso technegau prosesu geiriau
  • prawf-ddarllen gan gynnwys dulliau gwirio

Dilyniant a Chyflogaeth

Gall ymgeiswyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen:

  • I mewn i gyflogaeth
  • Tystysgrif Lefel 2 Gweinyddiaeth Feddygol a Sgiliau Cyfathrebu

Asesu'r Rhaglen

Bydd asesu ar ffurf dwy dasg o dan gyfyngiadau amser - un mewn Terminoleg Feddygol ac un mewn Clywdeipio - a fydd yn cynhyrchu tystiolaeth o gyflawniad ar gyfer yr holl feini prawf asesu a'r deilliannau dysgu gofynnol.

Tystysgrifau Agored Cymru mewn:

  • Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr
  • Clywdeipio Meddygol

Gofynion y Rhaglen

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, er yr ystyrir bod dealltwriaeth dda o'r Saesneg yn fuddiol gyda ffocws arbennig ar gywirdeb sillafu, ynghyd â naill ai profiad mewn amgylchedd meddygol neu awydd i symud i'r maes hwn.

Costau Ychwanegol

Mae ffioedd rhan-amser ym Mand Ffioedd H ynghlwm wrth y cwrs.
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cymhwyster hwn.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.