Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n dymuno symud ymlaen mewn amgylchedd Gweinyddiaeth Feddygol. Gall y dysgwr ddechrau neu symud ymlaen yn broffesiynol o fewn gyrfa fel gweinyddwr neu ysgrifennydd meddygol, gan helpu cleifion a darparu cefnogaeth hanfodol i feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Bydd y cymhwyster Lefel 2 yn cwmpasu meysydd sy'n ymwneud â Sgiliau Gweinyddu mewn Amgylchedd Meddygol a Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol
Cipolwg
Rhan Amser
17 Wythnos
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
darparu cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o weinyddiaeth a sgiliau cyfathrebu
cyfuniad o gyflwyniad ar y safle ac ar-lein
cyflwynir gan ddarlithwyr cymwysedig
darparu llwybr dilyniant i gyflogaeth neu gymwysterau ychwanegol
datblygiad proffesiynol parhaus
Cynnwys y Rhaglen
Bydd Sgiliau Gweinyddu yn cynnwys:
gweithdrefnau sy’n ymwneud â chofrestru cleifion
apwyntiadau a systemau apwyntiadau
defnydd o gyfarpar swyddfa
dyletswyddau gweinyddol cyffredinol swyddfa
Bydd Sgiliau Cyfathrebu yn cynnwys:
datblygu sgiliau i gyfathrebu gydag ystod o bobl
datblygu sgiliau mewn cyfathrebu wyneb yn wyneb, ysgrifenedig a di-eiriau
datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfathrebu a ffactorau sy’n gwneud cyfathrebu’n anodd
datblygu sgiliau ar gyfer cyfansoddi dogfennau ysgrifenedig priodol
Dilyniant a Chyflogaeth
Gall ymgeiswyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen:
I mewn i gyflogaeth
Tystysgrif Lefel 2 Terminoleg Feddygol a Chlywdeipio ym Maes Meddygaeth
Asesu'r Rhaglen
Bydd asesu ar ffurf dwy dasg o dan gyfyngiadau amser - un mewn Gweinyddiaeth Feddygol ac un mewn Sgiliau Cyfathrebu - a fydd yn cynhyrchu tystiolaeth o gyflawniad ar gyfer yr holl feini prawf asesu a'r deilliannau dysgu gofynnol.
Tystysgrifau Agored Cymru mewn:
Sgiliau Gweinyddu mewn Amgylchedd Meddygol
Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol
Gofynion y Rhaglen
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, er yr ystyrir bod dealltwriaeth dda o'r Saesneg yn fuddiol gyda ffocws arbennig ar gywirdeb sillafu, ynghyd â naill ai profiad mewn amgylchedd meddygol neu awydd i symud i'r maes hwn.
Costau Ychwanegol
Mae ffioedd rhan-amser ym Mand Ffioedd H ynghlwm wrth y cwrs. Nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cymhwyster hwn.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.