Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o dwf personol a datblygiad sgiliau. Mae'r cwrs ymarferol hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu. Hefyd, byddwch yn dysgu'r sgiliau a'r technegau sydd eu hangen i roi cychwyn ar yrfa yn y celfyddydau coginiol neu letygarwch. Mae’r cwrs yn borth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio'r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i raglen lefel dau mewn coginio proffesiynol a sgiliau bwyd a diod proffesiynol. Mae dysgwyr eraill yn symud ymlaen i brentisiaeth neu gyflogaeth. Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Mae'r holl ddysgwyr yn rhedeg y gwasanaeth ym mwyty Myrddin, y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd a diod i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol. Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith.
Cynnwys y Rhaglen
Ar y cwrs hwn byddwch yn ennill Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Thystysgrif mewn Sgiliau Bwyd a Diod. Fel rhan o’r cwrs byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau bwyty a chegin. Mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd, hylendid a gweithio'n effeithiol fel tîm. Mae’r unedau byddwch chi’n eu cwmpasu yn cynnwys:
Cyflwyniad i gyflogadwyedd yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch
Diogelwch bwyd mewn arlwyo
Cyflwyniad i fwydydd iachach a deietau arbennig
Dulliau coginio; fel berwi, potsio a stemio, pobi, rhostio a grilio.
Gwasanaeth bar
Delio gyda thaliadau a bwciadau
Deall a chynllunio bwydlenni
Sgiliau diodydd poeth
Sgiliau gwasanaeth bwyd a diod
Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob myfyriwr. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar eu lefel gyfredol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich gwasanaeth cwsmer a sgiliau a thechnegau cegin, a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y llwybrau sy’n agored i chi yn y diwydiant. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod, neu gall Dysgwyr hefyd symud ymlaen i brentisiaeth.
Asesu'r Rhaglen
Asesir unedau drwy asesu gwaith ymarferol yn y gegin ac yn y bwyty wrth arsylwi gwaith ymarferol ym mwyty Myrddin, a thrwy gwblhau profion gwybodaeth greiddiol ac aseiniadau ysgrifenedig yn llwyddiannus.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen o leiaf tair gradd TGAU D - G i astudio'r cwrs hwn, tystlythyrau da a chyfweliad llwyddiannus. Bydd y rhai heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu hystyried yn dilyn cyfweliad, tystlythyrau a phrawf mynediad.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.