Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau coginiol a'u sgiliau bwyd a diod ymhellach. Mae’n borth ardderchog i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel dilyniant i raglen lefel tri mewn coginio proffesiynol, a sgiliau gwasanaeth bwyd a diod neu i mewn i brentisiaeth.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Mae'r holl ddysgwyr yn rhedeg y gwasanaeth ym mwyty Myrddin, y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd a diod i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol. Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith.
Cynnwys y Rhaglen
Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau ond mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar weithio’n effeithiol fel tîm a diogelwch bwyd a hylendid. Mae unedau eraill yn cwmpasu pynciau megis paratoi seigiau cig, pysgod, dofednod a llysiau, gwneud isgellau, cawliau a sawsiau, pobi bara a chacennau, sbwnjis a theisennau crwst bach a phwdinau, gwneud coctels, paratoi diodydd poeth, gwasanaeth gwin, bwrdd gweini symudol Gueridon, gwasanaeth arian a gweini cwsmeriaid.
Bydd aseiniadau’n cynnwys ymchwiliadau i gwmpas a phwysigrwydd y diwydiant arlwyo a lletygarwch i economi’r DU, iechyd a diogelwch yn y diwydiant, cynllunio bwydlenni a chostiadau bwyd. Asesir gwybodaeth uned trwy bapurau prawf ac arsylwadau ymarferol ar gyfer paratoi, cyflwyno a gweini bwyd a diodydd wrth y bwrdd.
Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob myfyriwr. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU.
Dilyniant a Chyflogaeth
Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich sgiliau gweithio mewn tîm a gwasanaeth cwsmer gydag amgylchedd gwaith realistig a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y diwydiant lletygarwch a’ch llwybrau posibl oddi fewn iddo. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol a Sgiliau Bwyd a Diod, prentisiaeth neu gyflogaeth sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.
Asesu'r Rhaglen
Asesir unedau trwy arsylwi ar dasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy'n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen i chi fod wedi cwblhau’n llwyddiannus cymhwyster lefel un mewn coginio proffesiynol a sgiliau gwasanaeth bwyd a diod. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.