Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau coginiol, bwyd a diod a goruchwylio gwasanaeth ymhellach. Mae’n llwybr i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn i symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth. Byddwch yn paratoi ystod eang o seigiau a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu sgiliau cyllyll, a gwybodaeth am amrywiaeth o ddulliau coginio a thechnegau paratoi bwyd. Byddwch hefyd yn dysgu sut i baratoi a gweini diodydd ac yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amgylchedd gwasanaeth bwyd.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Pibwrlwyd
Nodweddion y Rhaglen
Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Mae dysgwyr lefel tri yn arwain wrth redeg y gwasanaeth ym mwyty Myrddin, y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant bwyty mewn amgylchedd ysgogol a chefnogol.
Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd uwch i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau cegin ymarferol. Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi sgiliau ar waith mewn amgylchedd gwaith. Dyma rai o’r unedau gorfodol y byddwch chi’n eu cwmpasu:
Egwyddorion goruchwylio gwasanaethau bwyd a diod
Egwyddorion goruchwylio diogelwch bwyd ar gyfer arlwyo
Egwyddorion hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion bwyd a diod
Deddfwriaeth mewn gwasanaeth bwyd a diod.
Dilyniant a Chyflogaeth
Byddwch yn datblygu eich sgiliau arwain a gwaith tîm a gwasanaeth cwsmer ynghyd â sgiliau cegin mwy datblygedig mewn amgylchedd gwaith realistig. Bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y diwydiant lletygarwch a’r ystod eang o lwybrau posibl oddi fewn iddo. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyflogaeth yn y diwydiant.
Asesu'r Rhaglen
Asesir unedau trwy arsylwi ar dasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy'n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen i chi fod wedi cwblhau’n llwyddiannus cymhwyster lefel dau mewn coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyd a diod. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.