Symudwch ymlaen i yrfa gyffrous yn y diwydiant teithio a thwristiaeth. Mae’r cwrs hwn yn darparu porth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae rhai myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i raglen Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth; gall eraill ddewis llwybrau astudio pellach gwahanol, prentisiaeth neu gyflogaeth llawn amser.
Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau a thechnegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Elfen ganolog o’r cwrs yw’r bartneriaeth agos gyda’r diwydiant twristiaeth lleol. Byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth mewn amgylchedd ysgogol a chyffrous. Cewch y cyfle i archwilio’r diwydiant trwy ymweliadau ag atyniadau ymwelwyr gartre a dramor. Byddwch hefyd yn gallu rhoi theori ar waith trwy gefnogi digwyddiadau mewn partneriaeth â’r diwydiant twristiaeth lleol.
Cynnwys y Rhaglen
Ar gwrs Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Teithio a Thwristiaeth, byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau. Mae’r pynciau yn cynnwys y sector teithio a thwristiaeth, profiad cwsmer, cyrchfannau twristiaid yn y DU ac yn rhyngwladol, atyniadau ymwelwyr y DU, trefnu teithiau ac ymweliadau, cynrychiolwyr gwyliau, ffactorau sy’n effeithio ar deithio a thwristiaeth ledled y byd a chyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant.
Hefyd byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ymhellach trwy TGAU Saesneg neu Fathemateg neu drwy Gymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Gymhwyso Rhif.
Dilyniant a Chyflogaeth
Symudwch ymlaen i yrfa gyffrous yn y diwydiant teithio a thwristiaeth. Mae’r cwrs hwn yn darparu porth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae rhai myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i raglen Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth; gall eraill ddewis llwybrau astudio pellach gwahanol, prentisiaeth neu gyflogaeth llawn amser.
Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau a thechnegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.
Asesu'r Rhaglen
Asesir y mwyafrif o’r unedau yn fewnol gan ddefnyddio asesiadau a gynlluniwyd gan y ganolfan. Gall y rhain gynnwys arsylwi mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â gwaith, cyflwyniadau, prosiectau, neu ysgrifennu estynedig. Caiff dwy uned eu hasesu trwy arholiad papur. Mae pob arholiad yn para 60 munud.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen o leiaf 3 TGAU graddau A*-C arnoch i astudio’r cwrs hwn. Rhaid i un o’r rhain fod yn Saesneg, Cymraeg iaith gyntaf neu Fathemateg.
Os ydych yn symud ymlaen o raglen lefel 1 bydd angen proffil Teilyngdod ar lefel 1 arnoch er mwyn symud ymlaen i'r rhaglen lefel 2 hon.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.