Mae’r cwrs hwn yn rhoi mynediad i yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Yn draddodiadol mae’r diploma L3 90 credyd yn ffurfio blwyddyn gyntaf rhaglen ddwy flynedd. Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae’r mwyafrif o ddysgwyr yn symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth. Mae rhai myfyrwyr yn symud ymlaen yn uniongyrchol i Addysg Uwch ac eraill i gyflogaeth.
Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau, technegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws y Graig
Nodweddion y Rhaglen
Elfen ganolog o’r cwrs yw’r bartneriaeth agos gyda’r diwydiant twristiaeth lleol. Byddwch yn cael golwg realistig ar y gofynion o weithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth mewn amgylchedd ysgogol a chyffrous. Cewch y cyfle i archwilio’r diwydiant trwy ymweliadau ag atyniadau ymwelwyr gartre a dramor. Byddwch hefyd yn gallu rhoi theori ar waith trwy gefnogi digwyddiadau mewn partneriaeth â’r diwydiant twristiaeth lleol.
Cynnwys y Rhaglen
Ar gwrs Diploma Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau. Mae’r pynciau yn cynnwys ymchwilio i’r sector teithio a thwristiaeth, gwasanaeth cwsmer, cyrchfannau twristiaid y DU ac Ewrop, twristiaeth mewn ardaloedd gwledig a thwristiaeth gyfrifol, digwyddiadau, cynadleddau ar arddangosfeydd, gweithrediadau lletygarwch, y busnes teithio a thwristiaeth a pharatoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant.
Hefyd byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd trwy TGAU Saesneg neu Fathemateg neu drwy Gymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Gymhwyso Rhif.
Dilyniant a Chyflogaeth
Mae’r cwrs hwn yn rhoi mynediad i yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Yn draddodiadol mae’r diploma L3 90 credyd yn ffurfio blwyddyn gyntaf rhaglen ddwy flynedd. Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae’r mwyafrif o ddysgwyr yn symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth. Mae rhai myfyrwyr yn symud ymlaen yn uniongyrchol i Addysg Uwch ac eraill i gyflogaeth. Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau, technegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.
Asesu'r Rhaglen
Asesir yr holl unedau yn fewnol gan ddefnyddio asesiadau a gynlluniwyd gan y ganolfan. Gall y rhain gynnwys arsylwi mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â gwaith, cyflwyniadau, prosiectau, neu ysgrifennu estynedig.
Gofynion y Rhaglen
Pump TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc galwedigaethol perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.