Prentisiaeth - Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch Lefel 3
Cipolwg
-
Llawn Amser
-
18 Mis
-
Campws Pibwrlwyd
Cynlluniwyd y brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo. I wneud cais am brentisiaeth mewn goruchwylio ac arwain lletygarwch byddwch yn cael eich cyflogi yn y diwydiant am o leiaf 30 awr yr wythnos ac yn mynychu ein campws ym Mhibwrlwyd ar gyfer sesiynau theori rheolaidd yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau/gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cynllunio a rheoli digwyddiadau, bwytai, bariau, siopau coffi a gwestai yn y sector.
Mae'r cwrs yn rhoi cipolwg i ddysgwyr ar y diwydiant sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain ac mae’n paratoi'r myfyriwr ar gyfer byd gwaith mewn gwestai, bwytai, bariau a chlybiau trwy ennill profiad ymarferol tra’n gweithio yn y diwydiant.
Rhaid eich bod yn gyflogedig am o leiaf 30 awr yr wythnos ac yn mynychu sesiynau wythnosol yn yr ystafell ddosbarth ar ein Campws ym Mhibwrlwyd, Caerfyrddin.
Ystod o unedau sy’n cynnwys:
- Gosod amcanion a darparu cymorth i aelodau tîm
- Datblygu perthynas waith gyda chydweithwyr
- Cyfrannu at reoli adnoddau
- Cynnal iechyd, hylendid, diogelwch a diogeledd yr amgylchedd gwaith
- Arwain tîm i wella gwasanaeth cwsmer
Mae unedau opsiynol yn cynnwys:
- Cyfrannu at hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau lletygarwch
- Goruchwylio’r storfa win/seler a’r cownter gweini
- Goruchwylio gwasanaethau bwyd
- Goruchwylio gwasanaethau diod.
Gall cwblhau'r cwrs arwain at gyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo gan gynnwys bwytai, bariau, clybiau nos, gwestai, llongau gwyliau i gynnwys rolau goruchwylio/rolau goruchwyliwr iau.
Asesir dysgwyr trwy gynhyrchu portffolio o dystiolaeth tra’n hyfforddi yn y gweithle ynghyd ag arsylwadau yn y gweithle.
Cwblhau lefel dau mewn gwasanaethau lletygarwch neu lefel dau mewn coginio proffesiynol / cynhyrchu a choginio bwyd yn llwyddiannus.
Disgwylir i ddysgwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg a Saesneg sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel dau mewn cymhwyso rhif a chyfathrebu er mwyn pasio'r brentisiaeth. Rhaid i bob prentis hefyd gwblhau diweddariadau sgiliau/targedau rheolaidd mewn cymhwyso rhif, cyfathrebu, llythrennedd digidol a Chymraeg waeth beth yw eu lefel ar fynediad.
Efallai y bydd costau ychwanegol fel iwnifform a gwerslyfrau.