Skip to main content

Addurno Cacennau: Dyfarniad Lefel 2 NCFE Mewn Crefft Greadigol

Disgrifiad o'r Rhaglen


A2P-CC/21 - derbyniad Medi 17 Wythnos - 4 awr yr wythnos
A2P-CC/212 - derbyniad Ionawr 17 Wythnos - 4 awr yr wythnos

Oes gennych chi frwdfrydedd am grefftau creadigol,  I rai mae addurno cacennau yn hobi, ac i eraill, mae'n yrfa.  Yr amaturiaid yw'r rheiny sy'n ei chael hi'n ddifyr ac yn foddhaol pobi'r cacennau ac yna eu haddurno ar gyfer eu teulu a'u ffrindiau, gan arbed arian trwy wneud hyn eu hunain.  Gyda hyfforddiant arbenigol ynghyd ag awgrymiadau a syniadau addurno da, gall unrhyw un feistroli'r gelfyddyd hon.  Ewch â'ch diddordeb mewn pobi i'r lefel nesaf trwy ddysgu'r sgiliau a'r technegau sy'n troi eich cacennau o ddanteithion cartref yn ddyluniadau proffesiynol 

Elfen ganolog y cwrs yw:

  • Defnydd o ddeunyddiau, offer a chyfarpar i ddatblygu technegau crefft, a datblygu syniadau crefft.
  • Ewch ati i greu, cyflwyno a gwerthuso eitemau cacennau addurnol terfynol.
  • Gan weithio gyda gwahanol gyfryngau byddwch yn dysgu i orchuddio ac addurno cacen gyda marsipan, pâst siwgr, eisin brenhinol a phâst blodau.
  • Datblygwch eich sgiliau pibellu, modelu a gwneud blodau sylfaenol yn ogystal â datblygu technegau addurnol gan gynnwys crychwaith, modelu, rhediadau, ysgrifennu a syniadau addurniol ar gyfer cacennau cwpan ar gyfer amrywiaeth o achlysuron.

    Ffi y cwrs Dyfarniad Lefel 2 NCFE mewn Addurno Cacennau fydd £155

    Bydd angen cyfarpar ychwanegol wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen a bydd angen i'r dysgwr ei brynu.   Nid oes angen Profiad Blaenorol  

Cipolwg

  Rhan Amser

  17 Wythnos

  Campws Pibwrlwyd

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.