Prentisiaeth - Diploma NVQ mewn Cynhyrchu a Choginio Bwyd - Lefel 2

Disgrifiad o'r Rhaglen


Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.  Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu ymhellach eu sgiliau ymarferol a'u hyder yn amgylchedd y gegin.  Mae’n borth ardderchog i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. 

Mae mwyafrif y dysgwyr yn defnyddio'r cwrs hwn fel dilyniant i raglen lefel tri mewn coginio proffesiynol neu lefel tri mewn goruchwylio ac arwain lletygarwch y gellir eu darparu fel cwrs llawn amser neu ran-amser neu brentisiaeth.

Cipolwg

  Llawn Amser

  18 Mis

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau.

Mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar weithio’n effeithiol fel tîm, diogelwch bwyd a hylendid. Mae unedau eraill yn ymdrin â phynciau fel paratoi a choginio cig, pysgod, dofednod a llysiau, gwneud isgellau, cawliau a sawsiau.

Dilyniant a Chyflogaeth


Mae prentisiaid yn elwa wrth ennill cyflog tra’n dysgu yn eu gweithle.  Yn aml mae yna amrywiaeth o gyflogwyr lleol sy'n ceisio darparu cyfleoedd prentisiaeth i ddysgwyr.  Yn aml, gellir cynnig cyflogaeth i brentisiaid ar ôl cwblhau eu prentisiaeth.  Mae llawer o brentisiaid yn mynd yn syth i gyflogaeth neu'n dychwelyd ar gwrs  llawn amser/prentisiaeth ar lefel uwch.   

Asesu'r Rhaglen


Asesir unedau trwy arsylwi tasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy'n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau.   Bydd asesu rheolaidd yn digwydd yn y gweithle.

Gofynion y Rhaglen


Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob prentis.  Disgwylir i ddysgwyr nad oes ganddynt radd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu i basio'r brentisiaeth.  Rhaid i bob prentis hefyd gwblhau diweddariadau sgiliau/targedau rheolaidd mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Chymraeg waeth beth yw eu lefel ar fynediad.

Costau Ychwanegol


Disgwylir i brentisiaid brynu set gyfan o ddillad gwyn pen-cogyddion.  Mae’n bosibl bydd angen offer ychwanegol megis set o gyllyll. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.