Prentisiaeth - Diploma NVQ mewn Coginio Proffesiynol - Lefel 2

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau coginio. Mae’n llwybr i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.  Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn i symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth neu i’r cwrs coginio proffesiynol lefel tri.  

Cipolwg

  Llawn Amser

  18 Mis

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Bydd dysgwyr yn cwblhau tystysgrif lefel dau mewn egwyddorion lletygarwch ac arlwyo yn ogystal â'r diploma lefel dau mewn coginio proffesiynol. 

Bydd dysgwyr yn paratoi ystod eang o seigiau cymhleth a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau cyllyll, a gwybodaeth am amrywiaeth o ddulliau coginio a thechnegau paratoi bwyd a ddefnyddir yn y gegin.

Cynnwys y Rhaglen


Asesir ystod o unedau gorfodol a dewisol yn y gweithle ynghyd â chwestiynau gwybodaeth diwedd uned a fydd yn ysgrifenedig a hefyd yn cael eu hateb ar lwyfan digidol. 

Dilyniant a Chyflogaeth


Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd i gyflogaeth lawn amser yn y sector arlwyo, llawer mewn amgylchedd cegin neu’n mynd ymlaen i astudiaeth bellach ar lefel tri.

Asesu'r Rhaglen


Asesir unedau coginio proffesiynol trwy arsylwi tasgau ymarferol yn y gweithle a gofyn cwestiynau seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau digidol. 

Gofynion y Rhaglen


Does dim angen hyfforddiant ffurfiol na phrofiad.  Fodd bynnag, mae cymhwyster lefel un mewn lletygarwch ac arlwyo yn ddymunol. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.

Disgwylir i ddysgwyr nad oes ganddynt radd D neu uwch mewn mathemateg a Saesneg sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu er mwyn pasio'r brentisiaeth.  Rhaid i bob prentis hefyd gwblhau diweddariadau sgiliau/targedau rheolaidd mewn cymhwyso rhif, cyfathrebu, llythrennedd digidol a Chymraeg waeth beth yw eu lefel ar fynediad. 

Costau Ychwanegol


Disgwylir i brentisiaid brynu set gyfan o ddillad gwyn pen-cogyddion.  Mae’n bosibl bydd angen offer ychwanegol megis set o gyllyll.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.