Skip to main content

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae'r cymhwyster newydd hwn yn galluogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn pobi i ddatblygu eu sgiliau coginiol mewn gwneud melysfwyd poeth ac oer, pwdinau, bisgedi, cacennau, sbwnjis, past a phatisserie seiliedig ar does. Bydd myfyrwyr yn elwa ar arbenigedd cogyddion patisserie a melysion profiadol a fydd yn eich arwain yn y technegau sydd eu hangen i gynhyrchu'r cynhyrchion hynod flasus hyn.

Cipolwg

  Rhan Amser

  Blwyddyn, cwrs nos 3 awr yr wythnos (5pm - 8pm)

  Campws Pibwrlwyd

Nodweddion y Rhaglen


Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16 oed a hŷn. Darperir ffedog ben-cogydd wedi’i brandio a defnydd o'r holl gyfarpar sydd ei angen.  Bydd amrywiol ddulliau coginio, sgiliau pobi a phatiserrie yn cael eu cyflwyno i bob sesiwn.

Cynnwys y Rhaglen


Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar batisserie a melysion. 

Cynhyrchu melysfwyd a phwdinau poeth ac oer - Bavarois, Mousses, Tartenni, Peis, Pwdinau Sbwnj, Souffle Oer, Sawsiau

Cynhyrchu cynhyrchion bisgedi, cacenni a sbwnjis - Sbwnjis Genoise, Gateaux, Teisen Frau, Teisen Madeira, Teisen Ffrwythau, Sbwnjis wedi’u Chwisgo

Cynhyrchu cynhyrchion past - bydd hyn yn cynnwys Crwst Pwff, Crwst Melys, Crwst Choux, Crwst Brau a Nwyddau Crwst Siwed

Cynhyrchu cynhyrchion toes wedi'i eplesu - Bara sylfaenol - Rholiau a Thorthau Brown a Gwyn, Bara â blas, Cynhyrchion Toes Melys wedi'u Cyfoethogi - Toesenni, Byns y Swistir, Byns Chelsea

Dilyniant a Chyflogaeth


Gallai’r cwrs hwn fod yn fan cychwyn ysbrydoledig a bydd yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer darpar pen-cogyddion y dyfodol neu gellid ei astudio yn gyfan gwbl oherwydd brwdfrydedd dros wneud cacennau a melysion. Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol gyda chyrsiau llawn amser neu ran-amser eraill yn cael eu cynnig megis ein dosbarth nos addurno cacennau, cwrs siocledwr undydd a chwrs coginio Blas ar Gymru.

Mae darlithwyr yn darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant.

Asesu'r Rhaglen


 Asesir myfyrwyr ar adborth arsylwi ymarferol ar seigiau a gynhyrchir yn ystod pob sesiwn.  Bydd hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr gynhyrchu portffolio o dystiolaeth i fodloni deilliannau dysgu'r cwrs.  Yn ogystal â’r asesiadau ymarferol bydd angen i ddysgwyr ddangos gwybodaeth trwy gwblhau papurau cwestiynau ysgrifenedig,

Gofynion y Rhaglen


Terfynau oedran 16+ oed.  Does dim gofynion academaidd.  Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.

Costau Ychwanegol


Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, a oedd yn cynnwys bwyd a gynhyrchir, staff a ffedog wedi’i brandio. Band ffi H.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.