Gallai’r cwrs pobi bara artisan yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn ardderchog ar gyfer y pobydd uchelgeisiol, cogyddion cartref ymroddedig a selogion bwyd i ddod draw i ddathlu’r brwdfrydedd sydd ei angen er mwyn pobi’r dorth eithaf a chynnyrch burum arall.
Bydd y cwrs yn cynnig gwybodaeth arbenigol a chyngor gan ben-cogydd brwdfrydig ac ymrwymedig, technegau proffesiynol ac un neu ddwy gyfrinach o eiddo’r pen-cogydd ar hyd y ffordd. Bydd y cwrs yn dathlu’r ryseitiau gorau oll, technegau pobi modern a chlasurol a ddefnyddir mewn ceginau proffesiynol a phoptai heddiw.
Ar ddiwedd y cwrs coginio byddwch yn ennill tystysgrif Uned Pobi Agored Cymru.
Cipolwg
Rhan Amswer
8 wythnos, cwrs nos o 17.00 – 21.00yh o Ionawr 19eg 2023
Campws Pibwylwyd
Nodweddion y Rhaglen
Cwrs coginio gyda’r nos yw hwn ar gyfer unrhyw un 16 oed a hŷn. Darperir yr holl gynhwysion, ffedog pen-cogydd wedi’i brandio a’r defnydd o gyllyll. Caiff amrywiol ddulliau coginio a sgiliau cegin eu cyflwyno ym mhob sesiwn.
Byddwch yn coginio o leiaf 2 fath o fara’n wythnosol.
Cynnwys y Rhaglen
Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar bobi. Gan ddechrau gyda'r hanfodion, ein nod yw archwilio'r amrywiaethau o fara melys a sawrus sydd ar gael yn fyd-eang.
Rhoddir sylw ac ystyriaeth arbennig i gynnyrch lleol, tymhorol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Gallai’r cwrs coginio Bara Artisan yng Ngholeg Sir Gâr fod yn fan cychwyn a fydd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer ysbrydoli pen-cogyddion a phobwyr y dyfodol, a’r cam nesaf fydd cofrestru yng Ngholeg Sir Gâr ar gwrs arlwyo llawn amser neu ran-amser.
Bydd y cwrs yn agor y drws i gyfleoedd yn y dyfodol yn y coleg a gyda chyrsiau eraill a gynigir megis coginio Blas ar Gymru, addurno cacennau, patisserie a chwrs siocledwr.
Gall darlithwyr ddarparu cyngor arbenigol i ddysgwyr ynghylch cymwysterau galwedigaethol a seiliedig ar waith ac opsiynau dilyniant yn y diwydiant.
Asesu'r Rhaglen
Asesiad ymarferol gyda chymorth ryseitiau. Bydd angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o bobi amrywiaeth o fara ar gyfer eu portffolio.
Ceir Tystysgrif Agored Cymru mewn pobi bara ar gwblhau.
Gofynion Mynediad
Terfynau oedran 16+ oed. Does dim gofynion academaidd. Bydd rheolau iechyd a diogelwch a gyflwynir yn y sesiwn gyntaf yn berthnasol.
Costau Ychwanegol
Cyfrifwyd costau ar gyfer y cwrs, a oedd yn cynnwys bwyd a gynhyrchir, staff a ffedog wedi’i brandio.
Campws y Graig Heol Sandy Pwll SA15 4DN 01554 748000 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522. Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.