Prentisiaeth - Coginio Proffesiynol Lefel 3
Cipolwg
-
Llawn Amser
-
18 Mis
-
Campws Pibwrlwyd
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau coginio. Mae’n llwybr i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn i symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth.
Bydd dysgwyr yn cwblhau tystysgrif lefel tri mewn egwyddorion lletygarwch ac arlwyo yn ogystal â'r diploma lefel tri mewn coginio proffesiynol.
Bydd dysgwyr yn paratoi ystod eang o seigiau cymhleth a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau cyllyll, a gwybodaeth am amrywiaeth o ddulliau coginio a thechnegau paratoi bwyd a ddefnyddir yn y gegin.
Asesir ystod o unedau gorfodol ac opsiynol yn y gweithle ynghyd â chwestiynau gwybodaeth diwedd uned a fydd yn ysgrifenedig a hefyd yn cael eu hateb ar lwyfan digidol.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn mynd i gyflogaeth lawn amser yn y sector arlwyo.
Asesir unedau coginio proffesiynol trwy arsylwi tasgau ymarferol yn y gweithle a gofyn cwestiynau seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau digidol.
Dyfarniad lefel dau mewn coginio proffesiynol/cynhyrchu a choginio bwyd lefel dau. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.
Disgwylir i ddysgwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg a Saesneg sefyll cymwysterau Sgiliau Hanfodol lefel dau mewn cymhwyso rhif a chyfathrebu er mwyn pasio'r brentisiaeth. Rhaid i bob prentis hefyd gwblhau diweddariadau sgiliau/targedau rheolaidd mewn cymhwyso rhif, cyfathrebu, llythrennedd digidol a Chymraeg waeth beth yw eu lefel ar fynediad.
Disgwylir i brentisiaid brynu set gyfan o ddillad gwyn pen-cogyddion. Mae’n bosibl bydd angen offer ychwanegol megis set o gyllyll.