Skip to main content

Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd Lefel 1

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 flwyddyn

  • Campws Pibwrlwyd

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o dwf personol a datblygiad sgiliau. 

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu a byddwch hefyd yn dysgu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen i ddechrau gyrfa yn y celfyddydau coginio neu letygarwch.   

Mae’r cwrs yn borth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio'r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i raglen lefel dau mewn coginio proffesiynol a sgiliau bwyd a diod proffesiynol.

Mae dysgwyr eraill yn symud ymlaen i brentisiaeth neu gyflogaeth.

Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.

Nodweddion y Rhaglen

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Disgwylir i bob dysgwr redeg y gwasanaeth yng Nghegin Sir Gâr, sef y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar alwadau gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd a diod i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol.  Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith. 

Cynnwys y Rhaglen

Ar y cwrs hwn byddwch yn ennill Diploma mewn Coginio Proffesiynol a Thystysgrif mewn Sgiliau Bwyd a Diod. Fel rhan o’r cwrs byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau bwyty a chegin.  Mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar ddiogelwch bwyd, hylendid a gweithio'n effeithiol fel tîm.  Mae’r unedau y byddwch chi’n eu cwmpasu yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i gyflogadwyedd yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch
  • Diogelwch bwyd mewn arlwyo
  • Cyflwyniad i fwydydd iachach a deietau arbennig
  • Dulliau coginio; fel berwi, potsio a stemio, pobi, rhostio a grilio.
  • Gwasanaeth bar
  • Delio gyda thaliadau a bwciadau
  • Deall a chynllunio bwydlenni
  • Sgiliau diodydd poeth 
  • Sgiliau gwasanaeth bwyd a diod

Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob myfyriwr. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar eu lefel gyfredol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmer a sgiliau a thechnegau cegin, a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y llwybrau sy’n agored i chi yn y diwydiant. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod, neu gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i brentisiaeth. 

Dull asesu

Asesir unedau drwy asesu gwaith ymarferol yn y gegin ac yn y bwyty wrth arsylwi gwaith ymarferol yng Nghegin Sir Gâr, a thrwy gwblhau profion gwybodaeth greiddiol ac aseiniadau ysgrifenedig yn llwyddiannus.

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

Bydd angen o leiaf tri TGAU graddau D i G arnoch i astudio’r cwrs hwn, geirdaon da a chyfweliad llwyddiannus. Bydd y rheiny heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu hystyried yn dilyn cyfweliad, geirdaon a phrawf mynediad.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.  Bydd angen i bob myfyriwr brynu cit y mae’n orfodol ei ddefnyddio yn ystod sesiynau ymarferol a gwasanaeth sy'n cynnwys dillad gwyn cegin ac iwnifformau blaen tŷ priodol. Gellir archebu’r rhain drwy’r adran arlwyo.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.