Skip to main content

Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd Lefel 2

Cipolwg

  • Llawn Amser

  • 1 flwyddyn

  • Campws Pibwrlwyd

Sianelwch eich brwdfrydedd am fwyd i flwyddyn werth chweil o ddatblygiad sgiliau a chreadigrwydd coginiol.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau coginio a'u sgiliau bwyd a diod ymhellach. Mae’n borth ardderchog i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae mwyafrif y myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel dilyniant i raglen lefel tri mewn coginio proffesiynol, a sgiliau gwasanaeth bwyd a diod neu i mewn i brentisiaeth. 

Nodweddion y Rhaglen

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r profiad cysylltiedig â gwaith. Mae pob dysgwr yn rhedeg y gwasanaeth yng Nghegin Sir Gâr, sef y bwyty hyfforddi ar y safle. Yma byddwch yn cael golwg realistig ar alwadau gweithio yn y diwydiant arlwyo mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Bydd staff profiadol yn dysgu sgiliau coginio a gwasanaeth bwyd a diod i chi trwy arddangosiadau bywiog a sesiynau sgiliau ymarferol.  Mae’r profiad ymarferol yn y bwyty hyfforddi yn darparu digonedd o gyfle i roi’r sgiliau hyn ar waith. 

Cynnwys y Rhaglen

Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau ond mae’r unedau craidd yn canolbwyntio ar weithio’n effeithiol fel tîm a diogelwch bwyd a hylendid. Mae unedau eraill yn cwmpasu pynciau megis paratoi seigiau cig, pysgod, dofednod a llysiau, gwneud isgellau, cawliau a sawsiau, pobi bara a chacennau, sbwnjis a theisennau crwst bach a phwdinau, gwneud coctels, paratoi diodydd poeth, gwasanaeth gwin, bwrdd gweini symudol Gueridon, gwasanaeth arian a gweini cwsmeriaid.  

Bydd aseiniadau’n cynnwys ymchwiliadau i gwmpas a phwysigrwydd y diwydiant arlwyo a lletygarwch i economi’r DU, iechyd a diogelwch yn y diwydiant, cynllunio bwydlenni a chostiadau bwyd. Asesir gwybodaeth uned trwy bapurau prawf ac arsylwadau ymarferol ar gyfer paratoi, cyflwyno a gweini bwyd a diodydd wrth y bwrdd.

Mae llythrennedd a rhifedd yn bwysig i bob myfyriwr. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt radd C neu uwch mewn mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU. 

Dilyniant a Chyflogaeth

Cewch ddigon o gymorth wrth ddatblygu eich sgiliau gweithio mewn tîm a gwasanaeth cwsmer gydag amgylchedd gwaith realistig a bydd eich profiadau ar y cwrs yn eich helpu i ddeall y diwydiant lletygarwch a’ch llwybrau posibl oddi fewn iddo. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol a Sgiliau Bwyd a Diod, prentisiaeth neu gyflogaeth sy’n gysylltiedig â’r diwydiant. 

Dull asesu

Asesir unedau trwy arsylwi ar dasgau ymarferol a gofyn cwestiynau sy'n seiliedig ar wybodaeth a all fod yn ysgrifenedig neu ar lwyfannau cyfryngau.  

Mae'r cymhwyster hwn ar gael i'w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi fod wedi cwblhau cymhwyster lefel un mewn coginio proffesiynol a sgiliau gwasanaeth bwyd a diod yn llwyddiannus. Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol. 

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.