Skip to main content

Diploma Estynedig Teithio a Thwristiaeth Lefel 3

Disgrifiad o'r Rhaglen


Mae’r cwrs hwn yn rhoi mynediad i addysg uwch ac i yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.  Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yn ymestyn y Diploma L3 (90 credyd). Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o ddysgwyr yn dewis parhau i astudio teithio a thwristiaeth mewn sefydliad addysg uwch. Mae eraill yn symud ymlaen i gyflogaeth. Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau, technegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws y Graig

Nodweddion y Rhaglen


Elfen ganolog o’r cwrs yw’r bartneriaeth agos gyda’r diwydiant twristiaeth lleol a’r cyfleoedd i deithio yn lleol a dramor. Byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth mewn amgylchedd ysgogol a chyffrous. Cewch y cyfle i archwilio’r diwydiant trwy ymweliadau ag atyniadau ymwelwyr gartre a dramor. Byddwch hefyd yn gallu rhoi theori ar waith trwy gefnogi digwyddiadau mewn partneriaeth â’r diwydiant twristiaeth lleol. 

Cynnwys y Rhaglen


Ar gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth, byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau. Mae’r pynciau’n cynnwys atyniadau ymwelwyr y DU, cyrchfannau teithio pell, adloniant ar gyfer pobl ar eu gwyliau, gweithio fel cynrychiolydd gwyliau, twristiaeth arbenigol, gweithrediadau teithiau, marchnata ac ymweliad preswyl.

Hefyd byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ymhellach trwy TGAU Saesneg neu Fathemateg neu drwy Gymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu neu Gymhwyso Rhif.

Dilyniant a Chyflogaeth


Mae’r cwrs hwn yn rhoi mynediad i addysg uwch ac i yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.  Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth yn ymestyn y Diploma L3 (90 credyd). Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o ddysgwyr yn dewis parhau i astudio teithio a thwristiaeth mewn sefydliad addysg uwch. Mae eraill yn symud ymlaen i gyflogaeth. Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau, technegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.

Asesu'r Rhaglen


Asesir yr holl unedau yn fewnol gan ddefnyddio asesiadau a gynlluniwyd gan y ganolfan. Gall y rhain gynnwys arsylwi mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â gwaith, cyflwyniadau, prosiectau, neu ysgrifennu estynedig.

Gofynion y Rhaglen


Bydd angen o leiaf pump TGAU graddau A*-C arnoch i astudio’r cwrs hwn.  Rhaid i’r rhain gynnwys Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg.  Yn draddodiadol mae’r cwrs hwn yn ffurfio ail flwyddyn rhaglen dwy flynedd. Mae angen i chi fod wedi cwblhau Diploma L3 mewn Teithio a Thwristiaeth (90 credyd) yn llwyddiannus.

Costau Ychwanegol


Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Ysbrydoli Dysgwyr

Link to Coleg Sir Gar Instgram      Link to Coleg Sir Gar Facebook      Link to Coleg Sir Gar Twitter     Link to Coleg Sir Gar Linked In 

Cysylltwch

Campws y Graig
Heol Sandy
Pwll
SA15 4DN
01554 748000
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.


Mae Coleg Sir Gâr yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08539630 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1152522.
Mae'r swyddfa gofrestredig ar Gampws y Graig, Heol Sandy, Pwll, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 4DN.